Cost of Living Support Icon

 

Gofalwyr di-dâl i dderbyn taliad cymorth o £500 

  • Dydd Llun, 16 Mis Mai 2022

    Bro Morgannwg



Bydd gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn gymwys i gael taliad o £500 i gydnabod y rôl ganolog y maent wedi'i chwarae yn ystod y pandemig. 

Mae'r taliad, a weinyddir gan Gyngor Bro Morgannwg, yn rhan o fuddsoddiad o £29m mewn gofalwyr di-dâl gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cydnabod y caledi ariannol ac emosiynol y mae llawer wedi'i brofi. Bydd y taliad o fudd i filoedd o'r gofalwyr mwyaf agored i niwed yng Nghymru. 

 

Mae'r taliad yn cael ei wneud yn dilyn arolwg a ganfu fod bron i hanner yr holl ofalwyr di-dâl yn defnyddio eu cynilion personol ac yn rhoi'r gorau i weithio i ofalu am eraill. 


Y gobaith yw y bydd y taliad yn helpu i leddfu'r pwysau a wynebir gan ofalwyr di-dâl yn ogystal â chydnabod gwerth eu rôl ofalu i system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.

Bydd gofalwyr di-dâl sy'n derbyn Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth eleni yn gymwys i gael y taliad.  

Dywedodd Lance Carver, Cyfarwyddwr o Gwasanaethau Cymdeithasol: "Rydym yn falch iawn o'n holl ofalwyr cyflogedig a di-dâl yma yn y Fro ac rwy'n gobeithio y bydd y taliad cymorth hwn gan Llywodraeth Cymru yn eu helpu nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn wrth i gostau byw godi.

"Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae gofalwyr di-dâl wedi chwarae rhan hanfodol yn ein cymuned, gan weithio oriau hir yn aml i ddarparu gofal di-ben-draw, gyda llawer ohonynt yn profi caledi ariannol ac emosiynol."

Os ydych yn credu eich bod yn gymwys, gallwch gyflwyno hawliad drwy gofrestru ar wefan y Cyngor o 9am ar 16 Mai tan 5pm ar 15 Gorffennaf 2022. 

I gael gwybodaeth gyflawn, ewch i wefan y Cyngor.