Cost of Living Support Icon

 

Cost taliadau byw i ddechrau'r wythnos hon  

  • Dydd Mawrth, 03 Mis Mai 2022

    Bro Morgannwg


 

 

Yr wythnos hon, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn dechrau rhoi taliadau Cymorth Costau Byw gwerth £150 i fwy na 35,000 o drigolion.  

O dan delerau cynllun Llywodraeth Cymru, mae un taliad o £150 ar gael i bob aelwyd sy'n byw mewn eiddo ym mandiau A-D y Dreth Gyngor, a phawb sy'n derbyn cymorth ar hyn o bryd drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.   

Bydd aelwydydd cymwys sy'n talu eu Treth Gyngor drwy ddebyd uniongyrchol yn derbyn y taliad yn uniongyrchol i'w cyfrif banc.  

Bydd y taliadau hyn yn dechrau o ddydd Iau 05 Mai.  Dylai pob aelwyd gymwys sy'n talu drwy ddebyd uniongyrchol dderbyn eu taliad Cymorth Costau Byw erbyn 13 Mai 2022. 

Bydd yr aelwydydd cymwys hynny nad ydynt yn talu eu Treth Gyngor drwy ddebyd uniongyrchol yn derbyn llythyr yn ystod yr wythnosau nesaf gyda manylion am sut y gallant hawlio eu taliad Cymorth Costau Byw. 

Bydd opsiynau ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb i sicrhau bod pob preswylydd cymwys yn gallu gwneud cais.   

Mae'r trefniadau hyn wedi'u gwneud i alluogi talu'r cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru cyn gynted â phosibl.  

Gall pob preswylydd wirio eu band treth gyngor ac a ydynt yn cael cymorth ar hyn o bryd drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor drwy wirio eu datganiad Treth Gyngor diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022.  

Gall pob preswylydd hefyd wirio eu band Treth Gyngor ar-lein drwy fynd i wefan GOV.UK.