Coastal resorts around the Vale triumph in the Wales Coast Awards 2022
Yn dilyn cyflwyniadau gan Gyngor Bro Morgannwg, mae pum lleoliad morol o amgylch y Sir wedi derbyn Gwobrau Arfordir Cymru.

Mae'r gydnabyddiaeth hon, sy'n cynnwys naill ai Baner Las neu’r Wobr Glan Môr, yn cael ei rhoi gan Cadwch Gymru'n Daclus i fannau arfordirol o safon uchel.
Mae traeth Southerndown, Marina Penarth, Bae Whitmore, Bae Jackson a Cold Knap yn y Barri i gyd wedi derbyn un o'r gwobrau hynny.
Mae'r gwobrau'n chwarae rhan bwysig o ran diogelu amgylcheddau morol ac fe'u cydnabyddir
ledled y byd fel symbol o ansawdd gan fod yn rhaid i leoliadau llwyddiannus gynnal safonau amgylcheddol uchel a chyflawni targedau ansawdd dŵr llym.
Mae'r Faner Las, a ddyfarnwyd i draeth Southerndown a Marina Penarth, yn statws amgylcheddol byd-enwog sy'n cydnabod ardaloedd o ansawdd dŵr, rheolaeth amgylcheddol, glendid a diogelwch gwych.
Mae'r Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE) wedi ysbrydoli ymwybyddiaeth amgylcheddol a gweithgareddau addysgol ledled y byd i hyrwyddo pwysigrwydd cynefinoedd morol a chyfrifoldeb cymdeithasol.
Y wobr Glan Môr, wedi'i marcio â baner felen a glas benodol, yw'r safon genedlaethol ar gyfer y traethau gorau.
Mae'r wobr, a roddwyd i Fae Whitmore, Bae Jackson a Cold Knap yn y Barri, yn cydnabod ardaloedd arfordirol glân, deniadol a reolir yn dda ledled y DU.
Mae'r rhestr lawn o wobrau i'w gweld ar wefan Cadwch Gymru'n Daclus: https://keepwalestidy.cymru/cy/ein-gwaith/gwobrau/gwobrau-arfordir-cymru/
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu – Y Cynghorydd Mark Wilson: "Rwy'n falch iawn o weld pum lleoliad yn y Fro yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Arfordir Cymru eleni - Da iawn i bawb sy'n gweithio'n galed i wella a chynnal ein hamgylchedd morol, gan gynnwys y llu o wirfoddolwyr sy'n helpu i gadw ein traethau'n lân.
"Rwy'n gobeithio bod y gwobrau'n annog llawer mwy o ymwelwyr i fwynhau arfordir y Fro, gan ddod â llawer o fanteision i gymunedau a busnesau lleol."
"Rwy'n falch bod y Fro wedi cyfrannu at y ffaith bod Cymru wedi llwyddo i gael mwy o draethau Baner Las y filltir nag unrhyw le arall yn y DU, fel y datgelwyd gan Cadwch Gymru'n Daclus.
"Wrth i ni barhau i ymdrechu i sicrhau arfordir glân sy'n cael ei reoli'n dda, rwy'n gobeithio gweld mwy o leoliadau'n cael eu hychwanegu at y rhestr wobrau yn y dyfodol."
This recognition, consisting of either a Blue Flag or Seaside Award, is handed out by Keep Wales Tidy to high calibre coastal spaces.