Cyngor Bro Morgannwg Yn Cymeradwyo Cynllun Cyflawnri Blynyddol
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno ar ei Gynllun Cyflawni Blynyddol, sy'n nodi'r gwaith sydd i'w wneud dros y flwyddyn nesaf i gyflawni nodau allweddol.
Wedi'i gymeradwyo mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ddydd Llun, ar ôl cael ei ystyried gan y Cabinet ac ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr, mae'r ddogfen yn esbonio sut mae'r sefydliad yn bwriadu cyflawni ei bedwar amcan lles.
Y rhain yw:
• Gweithio gyda a thros ein cymunedau
• Ategu dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy
• Cynorthwyo pobl gartref ac yn eu cymuned
• Parchu, gwella a mwynhau ein hamgylchedd
Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae hwn yn gynllun cynhwysfawr sy'n nodi amcanion a fydd yn ganolbwynt allweddol i waith y Cyngor dros y flwyddyn nesaf.
"Byddwn yn ceisio datblygu gwaith sy'n cyd-fynd â'r amcanion hyn, lle mae chwe thema benodol.
"Drwy ymdrechu i gyflawni'r nodau hyn, credwn y byddwn yn helpu i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer Cymunedau Cryf â Dyfodol Disglair yn y Fro."
Y chwe thema sy'n gweithio ar yr amcanion hyn fydd:
• Prosiect Sero – Ymrwymiad y Cyngor i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac ymateb i'r argyfwng natur drwy fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae hyn yn cynnwys strategaeth seilwaith gwyrdd, gwella ein tai, ein hysgolion a’n hadeiladau eraill, hyrwyddo teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus a gosod mannau gwefru cerbydau trydan yn ogystal â ffocws ar gaffael ac ymgysylltu â'r gymuned.
• Capasiti’r gymuned - Cynyddu capasiti o fewn ein cymunedau gan sicrhau bod ganddynt lais cryfach a'u bod yn gallu dylanwadu ar wasanaethau a gweithgareddau yn y Fro a'u siapio. Bydd pob un o’r gweithgareddau a nodir yn y Cynllun yn canolbwyntio’n fwy ar ymgysylltu â’r gymuned. Caiff strategaeth cyfranogiad y cyhoedd newydd ei chyhoeddi a byddwn yn parhau i sgwrsio â’r gymuned am y newid yn yr hinsawdd. Byddwn hefyd yn cymryd camau i gynyddu cyfranogiad pobl ifanc ac i alluogi pobl i leisio eu barn yn fwy ar waith y Cyngor.
• Caledi – Bodloni anghenion y rhai sy'n profi caledi, er enghraifft anawsterau ariannol, angen am dai neu anawsterau wrth gael gwaith addas. Mae hyn yn cynnwys lleihau digartrefedd, cyngor ariannol, gwasanaethau budd-daliadau a chyflogaeth, a phrosiectau tlodi bwyd, gan gynnwys prosiectau yn ein hysgolion i gefnogi disgyblion a'u teuluoedd.
• Gofal a Chymorth - bodloni anghenion ein trigolion mwy agored i niwed, gan sicrhau bod pobl yn gallu cael gofal a chymorth a gwybodaeth i'w cadw'n ddiogel ac yn iach gan roi sylw dyledus i'w lles corfforol a meddyliol. Mae'r cynllun yn nodi amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi pobl gan gynnwys rhoi mwy o gyfleoedd i’r henoed, diogelu ac amddiffyn y cyhoedd, gweithio gyda phlant a'u teuluoedd a mwy o integreiddio ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal â chanolbwyntio ar les disgyblion mewn ysgolion.
• Trawsnewid - Mae hyn yn dwyn ynghyd waith gyda'r gymuned a gwaith i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd ond hefyd y defnydd o’n technoleg a’n hasedau, datblygu'r gweithlu a phrosiectau arloesol a chyfleoedd i newid sut yr ydym yn gweithio ar draws yr holl wasanaethau o addysg a gofal cymdeithasol i reoli gwastraff.
• Seilwaith - buddsoddi yn ein hysgolion a'n tai a sicrhau bod gennym y seilwaith cywir yn y Fro i gefnogi lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif, adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol ac adeiladu cartrefi cyngor newydd yn ogystal â gweithio ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gan ganolbwyntio ar gynllunio, trafnidiaeth a datblygu economaidd ar draws De-ddwyrain Cymru.
Mae'r Cyngor yn bwriadu cyflawni ei bedwar amcan lles mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Mae gwneud defnydd effeithiol o dechnoleg, annog sgyrsiau am yr argyfwng hinsawdd a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn enghreifftiau o sut y bydd yn gweithio gyda chymunedau ac ar eu cyfer.
Cefnogir dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy drwy ddarparu cyfleusterau addysgol newydd a gwell drwy'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Bydd y Cyngor hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu sgiliau trigolion a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i wella trafnidiaeth a chyfleoedd economaidd.
Bydd pobl yn cael eu cefnogi gartref ac yn eu cymunedau gan yr ymateb rhanbarthol i bandemig y coronafeirws a thrwy ddatblygu gweithgareddau hamdden ac addysgol, ymhlith mentrau eraill.
Bydd gweithredu Prosiect Sero, ymrwymiad y Cyngor i fod yn garbon niwtral erbyn 2030, yn helpu i gyflawni'r nod o barchu, gwella a mwynhau'r amgylchedd. Bydd ysgolion yn mynd yn wyrddach, tra bod cynlluniau hefyd i wneud trafnidiaeth yn fwy cynaliadwy.