Cost of Living Support Icon

 

Datganiad gan Arweinydd y Cyngor ar y sefyllfa yn yr Wcrain

Mae yr Cyng. Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, wedi cyhoeddi yr datganiad isod ar y sefyllfa barhaus yn yr Wcrain.

 

  • Dydd Llun, 07 Mis Mawrth 2022

    Bro Morgannwg



“Fel miliynau o bobl ledled y byd, rwy’n siŵr bod trigolion Bro Morgannwg wedi gwylio ag arswyd y sefyllfa’n yr Wcráin sy’n dal i waethygu.


“Mae’r byd wedi bod yn unfryd wrth gondemnio’r ymosodiad a hoffai’r Cyngor ychwanegu ei lais at y niferoedd dirifedi eraill wrth feirniadu’n gwbl lym y rhyfel diangen ac anghyfiawn hwn.


“Mae ein meddyliau â phobl yr Wcráin, sydd wedi dangos cryfder a chymeriad mewn ymateb i’r ymosodiad cïaidd hwn.

 

Cllr MOORE2

“Gwn fod nifer ohonom eisiau gwybod beth yw’r ffordd orau o helpu’r Wcráin yn ystod yr adeg hynod bryderus hon. Mae miloedd wedi ffoi’r wlad gyda’r rhai sydd wedi aros yn dioddef effeithiau cyrch milwrol, a hefyd canlyniadau difrifol sy’n ategu sefyllfa o’r fath wrth i adnoddau fel bwyd, dŵr a thanwydd brinhau.


“Heb os y ffordd fwyaf effeithiol i unigolion helpu yw drwy roi arian i sefydliadau fel Cronfa Wcráin y Groes Goch ac Achub y Plant. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi creu gwefan sy’n cynnwys rhestr o elusennau eraill sy’n cynnig cymorth tebyg a sut y gellir anfon arian atynt. Mae modd gwneud hyn drwy https://gov.wales/supporting-people-ukraine


“Byddwn yn annog i unrhyw un a all roi i’r achos. Dyma ddigwyddiad erchyll sydd wedi syfrdanu’r byd a rhaid i ni sefyll ynghyd yn ei erbyn.”