Canolfan gymunedol newydd yn agor ar Lannau'r Barri
Mae canolfan gymunedol newydd gwerth £1.5 miliwn wedi agor ar Lannau’r Barri i wasanaethu'r ardal hon a'r dref ehangach.
Mae canolfan gymunedol newydd gwerth £1.5 miliwn wedi agor ar Lannau’r Barri i wasanaethu'r ardal hon a'r dref ehangach.
Mae'r ganolfan wedi'i hariannu gydag arian o Gronfa Grant Cymunedau Cryf Cyngor Bro Morgannwg, cyfraniadau Adran 106 a sicrhawyd gan ddatblygiadau lleol ac amrywiaeth o ffynonellau eraill gan gynnwys y Loteri Genedlaethol.
Bydd Canolfan Gymunedol The Bridge Between, sydd wedi'i lleoli ychydig oddi ar Heol y Llongau, yn gartref i Eglwys Unedig y Barri ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol eraill.
Bydd ystafelloedd, o neuadd fawr i ofodau llai, ar gael i'w harchebu gan unrhyw sefydliad sy'n cyd-fynd ag ethos cynhwysol y ganolfan.
Mae cyfleuster Lleoedd Newid arbenigol hefyd ar gael i bobl anabl a gardd gymunedol sy'n cael ei hehangu ar hyn o bryd.
Bydd Caffi yn gweithredu ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn, tra bydd Vale People First, sefydliad eiriolaeth anabledd, hefyd yn gweithredu ar y safle.
Dwedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: "Rwy'n falch iawn bod yr adeilad pwysig hwn bellach wedi'i gwblhau.
"Bydd nid yn unig yn darparu cartref i Eglwys Unedig y Barri, ond hefyd lle i lu o grwpiau eraill sydd o fudd i'r gymuned leol ac yn ei chyfoethogi.
"Cefnogi'r math hwn o brosiect lleol gwerth chweil yw diben y Gronfa Grant Cymunedau Cryf ac mae bob amser yn braf gweld y gwahaniaeth gwirioneddol y gall arian ei wneud. Hoffwn ddiolch hefyd i'r preswylwyr a helpodd i wireddu'r cynllun hwn. Mae eu gwaith wedi bod yn hynod o werthfawr."
Mae rhagor o wybodaeth am y ganolfan ar gael yn www.thebridgebetween.org.uk