Cost of Living Support Icon

 

Cyllid wedi i sicrhau ar gyfer parc sglefrio newydd yn y Cnap

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn falch i allu cadarnhau bod cyllid o fwy na £300,000 ar gyfer cyfleuster sglefrfyrddio newydd yn y Cnap yn y Barri wedi i sicrhau.

 

  • Dydd Mercher, 09 Mis Mawrth 2022

    Bro Morgannwg



Mewn partneriaeth â Chronfa Goffa Richard Taylor a Chwaraeon Cymru, nodwyd arian i ddatblygu parc concrit newydd ar safle'r cyfleuster presennol yn y Cnap.


Mae angen adnewyddu'r parc presennol yn llwyr, a sefydlwyd fel teyrnged a chofeb i'r sglefrwr a'r sgïwr uchel ei barch yn y Barri, Richard Taylor. 


O ystyried llwyddiant Tîm Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo yn 2022 mewn sglefrfyrddio a BMX, mae'r cyfle i ailwampio’r cyfleuster yn llwyr gyda pharc concrit newydd yn rhywbeth y mae pob partner yn awyddus i'w gyflawni.

 

skate2

Mae Cronfa Goffa Richard Taylor wedi cadarnhau cyfraniad o £30,000, a gafwyd drwy Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru a Sefydliad Waterloo, tuag at barc newydd, gyda chyllid ychwanegol yn dod gan y Cyngor.   


Mae cais i Chwaraeon Cymru hefyd wedi'i gymeradwyo sy'n darparu'r rhan fwyaf o'r cyllid sydd ei angen ar gyfer y cyfleuster newydd. 


Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, mewn ymgynghoriad â Chronfa Goffa Richard Taylor, i ddewis cynllun ar gyfer y Parc newydd. 


Amcangyfrifir mai cyfanswm cost y cynllun newydd yw £330,000 a bydd y cyfleuster yn darparu parc sglefrfyrddio cyffrous ac am ddim i genhedlaeth newydd, yn ogystal â’r genhedlaeth bresennol o sglefrwyr a beicwyr BMX. 

Dwedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Bydd creu parc sglefrio newydd yn y Cnap yn disodli cyfleuster poblogaidd a hoffus sydd wedi dod i ddiwedd ei oes.  Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu symud mor gyflym i sicrhau arian i adeiladu parc newydd.  Rwy'n ddiolchgar iawn i Gronfa Goffa Richard Taylor am eu cyfraniad hael tuag at y prosiect hwn ac am yr arbenigedd y maent yn ei gynnig i'r cynlluniau cyffrous sy'n cael eu datblygu." 


Dwedodd brawd Richard, Rob Taylor, sydd wedi bod yn cynorthwyo'r Cyngor gyda'r prosiect hwn: "Mae'n wych gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud gan bawb sy’n rhan o’r prosiect hwn.  Rydym wrth ein bodd y bydd rhywbeth newydd a chyffrous yn ymddangos ar y safle yn y dyfodol.   Yn bwysicaf oll i'r teulu, bydd yn parhau i ddarparu cyfleuster di-dâl o ansawdd i bawb ei ddefnyddio ac yn rhoi cyfle i bawb gymryd rhan mewn gweithgareddau yr oedd Richard yn rhagori ynddynt." 


Meddai Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Mewnwelediad, Polisi a Materion Cyhoeddus yn Chwaraeon Cymru:  "Mae Chwaraeon Cymru yn falch iawn o allu cefnogi datblygiad y parc sglefrfyrddio newydd sbon yn y Barri. Mae'r cyllid a sicrhawyd drwy Lywodraeth Cymru, yn ogystal â'r awdurdod lleol a chyfraniad hael yr elusen, yn dangos bod hwn yn ymdrech gydweithredol wirioneddol.   Bydd hyn yn rhoi mynediad am ddim i'r gymuned leol i gyfleusterau o ansawdd uchel ar gyfer sglefrfyrddio a BMX - chwaraeon sy'n tyfu mewn poblogrwydd gyda phobl ifanc ers eu cynnwys yn y Gemau Olympaidd 


"Bydd datblygiadau a gwelliannau i gyfleusterau, fel hwn ym Mharc Sglefrio’r Cnap, yn helpu'r sector yn ei nod o roi'r cyfle i bob person yng Nghymru i fod yn gorfforol egnïol."