Cost of Living Support Icon

 

Cyngor y Fro i Gefnogi 50 o Fusnesau Newydd yn 2022

Bydd bron i £220,000 mewn grantiau ar gael i fusnesau bach newydd ym Mro Morgannwg ar ôl i Gabinet y Cyngor gymeradwyo Cynllun Bwrsariaethau newydd y Fro. 

 

  • Dydd Mawrth, 15 Mis Mawrth 2022

    Bro Morgannwg


 


Mae'r Cyngor wedi gosod targed uchelgeisiol o sefydlu 50 o fusnesau newydd drwy'r cynllun.  Bydd grantiau o hyd at £5000 ar gael i helpu i dalu am y gost o ddechrau menter newydd.  Hwn fydd y pedwerydd cynllun o'r fath y mae'r awdurdod lleol wedi'i weithredu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda 75 o fentrau wedi'u sefydlu o ganlyniad.  

Dywedodd Y Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: "Mae datblygu economaidd a chreu swyddi wedi bod yn ffocws i'r Cyngor hwn ers amser maith ac mae ein cynllun bwrsariaeth newydd yn fwy fyth o dystiolaeth o hynny.  

"Mae rowndiau blaenorol wedi'u targedu at bobl ifanc 18-30 oed ond rydym yn gwybod bod pobl o bob oed ledled y Fro gyda syniadau gwych ar gyfer busnesau newydd.  Mae bob amser yn bleser taro ar draws pobl a gefnogwyd mewn rowndiau blaenorol a gobeithio y bydd llawer mwy o lwyddiannau yn y dyfodol. 

"Gyda chymaint o gyfleoedd yn agor o ganlyniad i waith adfywio'r Cyngor ni fu erioed amser gwell i wneud busnes ym Mro Morgannwg ac rwy'n edrych ymlaen at weld beth fydd ein 50 o fusnesau newydd yn dod ag ef yn sgil hynny."

 

Mae'r Cyngor wedi dyrannu hyd at £159,0744 i ariannu'r cynllun, gyda £60,000 ychwanegol yn dod o Sefydliad Waterloo.  

Dywedodd Anna Rees, Rheolwr Cronfa Cymru ar gyfer Sefydliad Waterloo:  "Mae Sefydliad Waterloo yn falch iawn o gefnogi Cynllun Bwrsariaeth Bro Morgannwg unwaith eto gyda'r nod o helpu pobl i ddechrau eu busnesau eu hunain. Gobeithiwn y bydd mwy o ddarpar entrepreneuriaid yn manteisio ar y cynllun, a'r cyfleoedd busnes ehangach y mae'n eu cynnig, wrth iddynt gael cymorth ar eu taith i hunangyflogaeth." 

Bydd y cynllun bwrsariaeth yn agor i ymgeiswyr o 01 Ebrill 2022.  Bydd rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael ar wefan y Cyngor o'r dyddiad hwn.