Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn datgelu Rhaglen Twf y Barri

MAE Cyngor Bro Morgannwg yn datblygu cynllun ar gyfer dyfodol Y Barri.

 

  • Dydd Mawrth, 08 Mis Mawrth 2022

    Bro Morgannwg



Barry Waterfront

Mae adroddiad i'w ystyried gan Gabinet yr Awdurdod ddydd Llun nesaf yn cyflwyno Rhaglen Twf y Barri sy’n dod i’r amlwg, strategaeth hirdymor

 i barhau i wella un o drefi mwyaf Cymru.


Bydd y rhaglen yn cynnwys Uwchgynllun Gofodol, sy'n cynnig darlun o ba ardaloedd y gellir eu cynnwys, megis canol y dref, y glannau, y dociau a safleoedd cyflogaeth eraill. 


Bydd Cynllun Buddsoddi mewn Adfywio yn nodi'r ffordd y caiff hyn ei gyflawni, gyda'r rhaglen gyffredinol wedi'i chynllunio i adeiladu ar lwyddiant y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud i adfywio'r Barri. 


Mae Ynys y Barri wedi cael ei hadfywio gyda phromenâd wedi'i adfywio, gerddi wedi'u tirlunio a chytiau traeth, tra bod yr Chwarter Arloesedd wedi gweld datblygiad y bedwaredd ganrif ar bymtheg y Pumphouse a'r Goodsheds.


Mae Goodsheds, hen adeilad storio rheilffyrdd ar Hood Road, wedi cael ei droi'n bentref o gynwysyddion llongau sy’n cynnwys swyddfeydd, unedau manwerthu, bwytai a siop goffi wrth ochr cyfadeilad o fflatiau.  


Mae llif eisoes o brosiectau wedi'u cynllunio o fwy na £100 miliwn, gan gynnwys cynigion ar gyfer campws coleg newydd ar y glannau, ysgol gynradd, a swyddfeydd o ansawdd uchel yn ogystal â chyfleusterau newydd i ddarparwyr rheilffyrdd, cyfnewidfa drafnidiaeth a chynllun porth tai ac iechyd cymysg. 


Mae hyn ar ben Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu'r Cyngor, sydd wedi gweld dwy ysgol gyfun yn Y Barri, Pencoedtre a Whitmore, yn elwa ar gampysau newydd sbon. Mae'r rhain yn cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf ac amgylcheddau dysgu hynod fodern, tra bod Ysgol Bro Morgannwg hefyd wedi elwa ar estyniadau sylweddol a gwaith adnewyddu. 


Fel rhan o'r cynllun, mae'r Cyngor yn paratoi cais i Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU, sy'n agor yn fuan, ar gyfer pecyn o brosiectau a fydd yn canolbwyntio ar y glannau, cyflogaeth a chyfleusterau cymunedol newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio ac Addysg:

 

"Mae'r Barri wedi cael ei hadfywio'n helaeth dros y blynyddoedd diwethaf, o drawsnewid ysgolion lleol gwerth miliynau o bunnoedd i'r partneriaethau arloesol sydd wedi rhoi bywyd i adeiladau o orffennol diwydiannol y dref.  Bu buddsoddiad sylweddol hefyd mewn tai ar lan y dŵr ac mewn mannau eraill wrth inni symud yn awr i adeiladu ein cartrefi cyngor carbon isel ein hunain. 


"Nawr rydym am adeiladu ar y llwyddiant hwnnw gyda gweledigaeth feiddgar a chyffrous ar gyfer Y Barri yn y dyfodol.


"Mae Rhaglen Twf y Barri yn amlinellu ein cynllun strategol ar gyfer dyfodol y dref. Ei nod yw mynd i'r afael â materion anghydraddoldeb, cyflogaeth ac anghenion hyfforddi, gydag uchelgais i leihau allyriadau carbon a gwella cysylltiadau trafnidiaeth.”


Fel rhan o ymrwymiad ehangach Prosiect Sero y Cyngor, sy'n ceisio gwneud y sefydliad yn garbon niwtral erbyn 2030, bydd ymgyrch hefyd i leihau allyriadau CO2 yn Y Barri.


Bydd Rhaglen Twf Y Barri yn targedu ardaloedd sydd â lefelau uchel o amddifadedd yn Y Barri, gyda'r nod nid yn unig o wneud gwelliannau ffisegol i rai lleoliadau penodol, ond hefyd datgloi cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth i breswylwyr. Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio i feithrin perthynas waith gryfach â Llywodraeth y DU drwy gydol 2021. 


Dywedodd Alun Cairns, Aelod Seneddol Bro Morgannwg:

 

"Mae Codi’r Gwastad yn un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth y DU. Mae hyn yn newyddion gwych i'r Barri gan y gallwn wneud cais am becyn sylweddol o brosiectau yn y glannau a'r cyffiniau a all ddarparu marina.  Mae'r prosiectau'n rhan sylweddol o'm gweledigaeth i gyflymu'r gwaith o adfywio un o drefi mwyaf Cymru.  Rwyf wedi ymgyrchu ers peth amser i weld y prosiectau cyffrous hyn yn datblygu a fyddai'n dod â'r glannau'n fyw ac yn creu safleoedd cyflogaeth newydd a mwy o swyddi o safon i breswylwyr.  


"Rwyf yn cydnabod yn llwyr fod angen inni gysylltu gweddill Y Barri'n well â'r glannau a chredaf yn gryf y bydd canol y dref a busnesau eraill yn elwa at y buddsoddiad hwn. Mae'r prosiectau a gyhoeddwyd heddiw yn ddim ond cyn-gyrch i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a fydd yn cynnig buddsoddiad llawer mwy gan Lywodraeth y DU ymhellach ymlaen ar gyfer prosiectau seilwaith a datblygu mwy y bydd y Fro a'r Barri yn gymwys i'w defnyddio. 


A gaf i hefyd dalu teyrnged i gloi i'r swyddogion yn yr awdurdod sydd wedi gweithio'n ddiflino i helpu i dynnu'r cais hwn at ei gilydd."