Cost of Living Support Icon

 

Fflyd Cyngor Bro Morgannwg yn dechrau newid i drydan   

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn ei gerbydau trydan cyntaf yng ngham diweddaraf yr awdurdod i weithredu Prosiect Sero, ei strategaeth ar gyfer cyrraedd sero net erbyn 2030. 

 

  • Dydd Mawrth, 08 Mis Mawrth 2022

    Bro Morgannwg



Cyn bo hir, bydd deuddeg cerbyd trydan Hyundai Kona yn disodli nifer o'r ceir sy'n cael eu pweru gan ddisel yn fflyd ceir cronfa’r Cyngor.  Gyda’i gilydd bydd y ceir trydan yn lleihau allyriadau'r Cyngor 26,304kg bob blwyddyn.  

Cllr King accepts keys for new electric vehicles from Helen Walker of Wessex Garage

Dwedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth:  "Mae'r Cyngor yn cymryd ei gyfrifoldeb dros fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd o ddifrif.  Dyna pam yr ydym wedi gosod cynllun uchelgeisiol ger bron i gyrraedd sero net erbyn 2030.  Roedd derbyn allweddi ein cerbydau trydan newydd yn garreg filltir o ran cyrraedd y targed hwnnw.   

 

"Mae gwaith y Cyngor yn cyffwrdd â bywydau llawer o bobl ym mhob cwr o'r Fro.  Bydd angen o hyd i'n cydweithwyr deithio i ymweld â thrigolion sy'n agored i niwed sydd angen ein cefnogaeth. Mae ein ceir cronfa bob amser wedi sicrhau eu bod yn gwneud hyn yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol. Bydd y cerbydau trydan newydd nawr yn sicrhau eu bod yn gwneud hynny heb fawr o effaith ar yr amgylchedd hefyd." 

As well as significantly reducing the carbon emissions of the fleet, the ‘whole life cycle’ cost of each vehicle is also lower than a comparable car powered by fossil fuels, meaning the cars will also save money. 

 

Yn ogystal â lleihau allyriadau carbon y fflyd yn sylweddol, mae cost 'cylch oes gyfan' pob cerbyd hefyd yn is na char tebyg sy'n cael ei bweru gan danwydd ffosil, sy'n golygu y bydd y ceir hefyd yn arbed arian.  

 

Bydd y cerbydau'n cael eu cynnal gan dîm Gwasanaethau Trafnidiaeth mewnol y Cyngor, a bydd llawer ohonynt yn ennill sgiliau newydd fel rhan o'u hyfforddiant i gynnal fflyd werdd y dyfodol. 

 

Gall ceir trydan Kona deithio hyd at 300 milltir ar un gwefriad a gellir eu hailwefru mewn llai nag awr, gan ddefnyddio pwynt gwefru cyflym, ac unwaith ar y ffordd byddant yn helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith trigolion o sut y gallant gymryd camau i leihau eu hôl troed carbon.