Cost of Living Support Icon

 

Llwybr sain newydd yng nghanol tref y Barri

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn lansio llwybr sain ymdrochol ar hyd Heol Holltwn a Thompson Street.

  • Dydd Mercher, 16 Mis Mawrth 2022

    Bro Morgannwg



Audio Trail CymMae'r prosiect yn cael ei ariannu gan gynllun Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ac mae'n cael ei gynhyrchu gan gwmni ymgynghori creu lleoedd, The Means.  


Bydd codau QR yn cael eu defnyddio i gludo ymwelwyr i oes arall gyda straeon byrion o 1890 i 2020 sy'n unigryw i'r Barri.  Mae'r profiad yn defnyddio'r dechnoleg ddeuseiniol ddiweddaraf a'i nod yw denu pobl yn ôl i'r stryd fawr a'u hailgysylltu â'r gymuned. 


Mae pob darn wedi'i ysbrydoli gan straeon go iawn, wedi'u casglu drwy broses ymchwil ac ymgysylltu helaeth.  Mae'r darnau'n ddwyieithog, ac wedi cael eu perfformio gan aelodau o'r gymuned leol. 

Dywedodd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: 


"Mae hwn yn brosiect gwych a fydd yn dod â threftadaeth gyfoethog y Barri yn fyw mewn ffordd hwyliog a hygyrch.  Mae'r rhan fwyaf o'r straeon o dan ddau funud o hyd, sy'n golygu y gall siopwyr wrando arnynt wrth siopa yng nghanol y dref.


"Rydym yn gobeithio, drwy wneud y straeon hyn yn weladwy ac yn hawdd i wrando arnynt, y byddwn yn denu cynulleidfa newydd nad yw fel arfer yn ymweld ag amgueddfa neu oriel gelf.  Rydym hefyd yn falch iawn o fod wedi gallu gwneud hyn yn ddwyieithog ac arddangos talent leol". 

 Mae'r profiad yn lansio ar 9 Ebrill ac yn rhedeg am 6 mis.