Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 07 Mis Mehefin 2022
Bro Morgannwg
Fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i gadw trigolion yn ddiogel, gwnaed buddsoddiad sylweddol mewn gweithredu gwasanaeth teledu cylch cyfyng newydd ar draws y Sir a fydd yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru ac mewn cydweithrediad â Chyngor Caerdydd ar gyfer monitro effeithiol.
Bydd y cynllun newydd yn golygu y caiff 78 o gamerâu sefydlog eu huwchraddio ledled Y Barri, Penarth a Llanilltud Fawr, ac y caiff camerâu newydd eu gosod ar Sgwâr y Brenin Y Barri, Rhodfa Penarth ac yn y Bont-faen.
Bydd rhwydwaith camerâu newydd yn cael ei fonitro 24/7 yn ystafell reoli Cyngor Caerdydd a chyfleuster gwylio newydd yng Ngorsaf Heddlu'r Barri, gan roi'r gallu i'r Cyngor a Heddlu De Cymru ymateb i faterion yn gyflymach.
Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai'r Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Thenantiaid: "Mae rhwydwaith teledu cylch cyfyng effeithiol yn helpu i gynnal diogelwch ein trigolion. Gall adnabod troseddwyr ac mae'n rhwystr sylweddol, gan leihau nifer y troseddau a gyflawnir. "Bydd y system newydd a gwell yn galluogi'r Cyngor a'r Heddlu i weithredu atebion amser real i broblemau lleol, lleihau amseroedd ymateb a sicrhau bod Bro Morgannwg yn parhau i fod yn lle diogel i fyw ynddo."
Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai'r Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Thenantiaid: "Mae rhwydwaith teledu cylch cyfyng effeithiol yn helpu i gynnal diogelwch ein trigolion. Gall adnabod troseddwyr ac mae'n rhwystr sylweddol, gan leihau nifer y troseddau a gyflawnir.
"Bydd y system newydd a gwell yn galluogi'r Cyngor a'r Heddlu i weithredu atebion amser real i broblemau lleol, lleihau amseroedd ymateb a sicrhau bod Bro Morgannwg yn parhau i fod yn lle diogel i fyw ynddo."