Ehangu’r cynllun Tocyn Euraidd
Yn ddiweddar, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ehangu'r cynllun Tocyn Euraidd i Ddwyrain a Gorllewin y Fro, gan helpu mwy o drigolion 60+ oed i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
Mae cynllun Tocyn Euraidd yn cael ei dreialu yn y Barri ers mis Medi 2021 ac mae dros 100 o drigolion wedi cael mynediad i'r wyth o sesiynau am ddim a gynigir.
Mae tri Hyb Gweithgareddau bellach ar gael. Mae'r rhain yn y Barri; y Fro Orllewinol, gyda gweithgareddau wedi'u lleoli'n bennaf yn y Bont-faen, Llanilltud Fawr a'r Rhws; a'r Fro Ddwyreiniol, gyda gweithgareddau wedi'u lleoli'n bennaf yn Ninas Powys a Phenarth.
Mae dros 40 o Ddarparwyr Gweithgareddau yn rhan o'r cynllun sy'n cynnig dros 100 o wahanol gyfleoedd yn amrywio o Saethyddiaeth i Zumba. Bydd y sesiynau sydd ar gael yn amrywio ym mhob ardal, ond mae'r tîm yn annog preswylwyr i roi adborth ar y ffordd orau o ddiwallu eu hanghenion.
Gall preswylwyr gofrestru drwy ddefnyddio'r ffurflen ar-lein.
Yna byddant yn derbyn pecyn croeso yn y post, gyda chanllaw cam wrth gam ar sut i gael mynediad i'r gweithgaredd a manteisio i’r eithaf ar y prosiect.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles, Gwyn John "Mae hwn yn gyfle gwych i drigolion 60+ oed ledled y Fro gael mynediad at weithgareddau ar garreg eu drws. Nawr bod cyfyngiadau COVID-19 wedi lleddfu, gall preswylwyr fynd yn ôl allan yn y gymuned a dechrau gweithgaredd newydd o'u dewis.
"Diolch yn fawr i Chwaraeon Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro am eu buddsoddiad parhaus mewn cymunedau ledled Bro Morgannwg."
Os bydd cyllid ar gael yn y dyfodol, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn ystyried ardaloedd pellach i gynnig gweithgareddau er mwyn cyrraedd cymaint o drigolion â phosibl.
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch goldenpass@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch 07596 889067.