Gwahoddiad i gyflwyno safleoedd ymgeisiol ar gyfer y CDLlN
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gwahodd datblygwyr, tirfeddianwyr a phartïon eraill â diddordeb i enwebu safleoedd ymgeisiol i'w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN).
Gellir hyrwyddo safleoedd ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau, gan gynnwys preswyl, cyflogaeth, manwerthu, hamdden, trafnidiaeth, twristiaeth, mwynau, gwastraff a defnydd cymunedol.
Ar gyfer datblygiad preswyl mae trothwy maint safle gofynnol o 0.3 ha neu 10 annedd, yn seiliedig ar isafswm dwysedd o 30 annedd yr hectar.
Rhaid i leoliadau trefol, megis Canol Tref y Barri, gael isafswm dwysedd o 50 annedd yr hectar. Mae hyn yn unol â'r egwyddorion strategol ar gyfer creu lleoedd yn Cymru'r Dyfodol.
Ar gyfer datblygiadau amhreswyl mae’n rhaid i adeilad fod ag isafswm arwynebedd llawr o 1,000m² neu mae’n rhaid i safle fod ag isafswm arwynebedd gros o 1ha.
Mae’r broses safleoedd ymgeisiol yn rhan o ymarfer casglu gwybodaeth ac ni ddylid ei hystyried fel ymrwymiad gan y Cyngor y bydd safleoedd o'r fath yn cael eu cynnwys yn y CDLlN.
Os ydych yn dymuno hyrwyddo safle, bydd angen i chi gwblhau'r ffurflen safle ymgeisiol gan ddefnyddio un o’r dulliau canlynol:
Mae nodiadau canllaw ar sut i lenwi'r Ffurflen Cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol ar gael ar-lein. Bydd y safleoedd ymgeisiol yn cael eu rhoi ar gofrestr safleoedd a fydd ar gael i'r cyhoedd maes o law.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw 13 Medi 2022.