Y Cyngor i ystyried Trwyddedau Masnachu Dros Dro
Bydd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg yn ystyried cynnig a allai arwain at ymgynghoriad ar ddyfodol Trwyddedau Masnachu Dros Dro ar Esplanâd Penarth.
Mae trwyddedau dros dro yn caniatáu i fusnesau lletygarwch fasnachu ar y briffordd gyhoeddus ac fe'u cyhoeddwyd yn ystod y pandemig i helpu gydag effaith cyfyngiadau gweithredu.
Mae'r rhan fwyaf o Drwyddedau Masnachu Dros Dro wedi'u rhoi ar gyfer lle ar balmentydd, ond cawsant eu rhoi hefyd ar gyfer treialu Parklets, ardaloedd cwsmeriaid o fewn mannau parcio, mewn rhai lleoliadau ym Mhenarth.
Yn flaenorol, addawodd y Cyngor adolygu ei safbwynt ar y mater hwn ar ôl yr Etholiadau Lleol, a gynhaliwyd y mis diwethaf.
Bydd yr adroddiad sy'n mynd gerbron y Cabinet yr wythnos nesaf yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor yn ddiweddarach heddiw (dydd Gwener 17 Mehefin).

Mae'n cynnwys cynlluniau ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu â'r cyhoedd ar ddyfodol Esplanâd Penarth, gan ganolbwyntio'n benodol ar a ddylid parhau ag ardaloedd trwyddedig allanol. Bydd goblygiadau cysylltiedig o ran rheoli traffig a thir cyhoeddus hefyd yn cael eu cynnwys.
Y bwriad oedd i’r Trwyddedau Masnachu Dros Dro a oedd yn bodoli ar yr esplanâd ddod i ben ddiwedd y mis, yn ogystal â threfniadau tebyg ar gyfer busnesau yn Ynys y Barri.
Pe bai cynigion yn cael eu cymeradwyo ddydd Iau, byddai'r trwyddedau hyn yn cael eu hestyn o fis i fis tra gofynnir am farn ar reoli'r esplanâd.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu: "Bu gwelliant sylweddol yn y maes cyhoeddus ar yr esplanâd ac o'i amgylch, gyda'r Cyngor yn buddsoddi'n helaeth ym Mhafiliwn y Pier. Rydym hefyd wedi cynnal rhaglen baentio helaeth ar y pier a’r esplanâd yn ogystal â gwelliannau i balmentydd ac arwyneb y ffordd.
"Mae diddordeb sylweddol gan y cyhoedd yn y mater hwn a safbwyntiau gwahanol ynghylch a yw mannau bwyta allanol a mannau trwyddedig yn nodwedd gadarnhaol neu negyddol yn y lleoliad hwn.
"Os caiff cynigion eu cymeradwyo, bydd y Cyngor yn lansio ymarfer ymgysylltu cyhoeddus cynhwysfawr i sefydlu barn pawb sydd â diddordeb ynghylch trefniadau masnachu yn y dyfodol.
"Byddai'r safbwyntiau hynny wedyn yn cael eu casglu ynghyd a'u dadansoddi'n briodol cyn gwneud penderfyniad ar y ffordd orau ymlaen."