Cwmni Arlwyo Big Fresh yn rhagori yn yr her arlwyo genedlaethol
Rhoddodd Cwmni Arlwyo Big Fresh o Gyngor Bro Morgannwg berfformiad trawiadol yn her arlwyo 'Eat Them to Defeat Them' 2022.
Yn ddiweddar, cymerodd Tracey Smart, Rheolwr Cegin yn Ysgol Gynradd Palmerston, ran yn yr her a chyrraedd Neuadd yr Anfarwolion.
Cynorthwywyd Tracey gan Shirley Curnick, Cynorthwy-ydd Arlwyo yn yr ysgol, a gyda'i gilydd derbyniodd wobr o £100 a thystysgrif i gydnabod eu cyflawniad.
Yn yr her, roedd timau arlwyo ysgolion o bob rhan o'r wlad yn creu detholiad o brydau ar gyfer pob wythnos o'r gystadleuaeth, gan sicrhau mai llysiau oedd 'arwr' pob un.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg (Grŵp Llafur), y Cynghorydd Rhiannon Birch: "Mae'n wych gweld aelodau o dîm Big Fresh yn derbyn cydnabyddiaeth allanol am eu sgiliau ac mae'n enghraifft arall o'u hanes llwyddiannus.
Mae hyn yn dangos go iawn sut mae staff yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl i sicrhau eu bod yn darparu gwasanaeth gwych. "Mae staff arlwyo rheng flaen ym mhob un o ysgolion ledled y Fro yn parhau i fod yn hanfodol wrth adeiladu Big Fresh Catering a gwneud y fenter yn llwyddiant.
"Mae'r manteision y mae plant ysgol yn eu cael o'r prosiect yn anfesuradwy. Mae Big Fresh yn gweithio gydag ysgolion ledled y Fro, nid yn unig ar ddarparu ar gyfer ein plant ysgol ond hefyd ar brosiectau fel ardaloedd bwyta yn yr awyr agored, mentrau lles, a rhaglenni dysgu newydd mewn ysgolion. Yn ogystal â hyn mae'r cwmni'n noddi timau pêl-droed lleol, clybiau drama ac yn rhedeg Caffi'r Big Fresh ym Mhafiliwn Pier Penarth."
Mae model busnes Big Fresh yn caniatáu i'r cwmni, sy'n darparu bwyd i ysgolion a digwyddiadau, weithredu fel endid masnachol, gan ddychwelyd yr holl elw i ysgolion a'r busnes ei hun.
Yn unol â'r ethos di-elw hwn, nid oes yr un o gyfarwyddwyr y cwmni yn cael eu cyflogi ac nid yw'r Cyngor, fel yr unig gyfranddaliwr, wedi tynnu unrhyw arian oddi wrth y cwmni.
Mae'r cwmni'n gweithio'n galed mewn partneriaeth â'r Cyngor a'i ysgolion i baratoi ceginau ar gyfer cyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb, gyda'n dysgwyr ieuengaf mewn addysg gynradd ar fin elwa ar gam cyntaf y cyflwyniad graddol ym mis Medi.
Ers ei sefydlu, mae'r Cwmni Arlwyo Big Fresh wedi creu bwydlenni heb alergenau, mwy o ddewisiadau fegan a llysieuol, gyda mwy o brydau'n cael eu gwneud o'r newydd a phob un yn bodloni safonau maethol Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan, anfonwch e-bost neu chwiliwch am The Big Fresh Catering Company ar Facebook.