Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn rhagori yng Ngwobrau'r Faner Werdd 

MAE Cyngor Bro Morgannwg wedi ennill gwobr y Faner Werdd am 10 safle, gan ddod i'r amlwg unwaith eto fel un o'r awdurdodau sy'n perfformio orau yng Nghymru. 

 

  • Dydd Mawrth, 26 Mis Gorffenaf 2022

    Bro Morgannwg



Dyfarnodd y corff beirniadu Cadwch Gymru'n Daclus statws Baner Werdd i 10 o fannau a gynhelir gan y Cyngor. Mae'r wobr yn dynodi safle sydd o ansawdd arbennig o uchel.

 

Derbyniodd parciau gwledig Cosmeston a Phorthceri y wobr, ynghyd â Pharc Romilly, Parc Alexandra a Gerddi Windsor, Glan Môr Ynys y Barri a Pentir y Brodyr (Friars Point), Parc Belle Vue, Parc Canolog, Gerddi’r Cnap, Parc Fictoria a Pharc Gladstone.  

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gyson wedi bod yn un o'r awdurdodau sy'n perfformio orau yng Nghymru. 

Dwedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy, y Cynghorydd Bronwen Brooks:


"Rwy'n falch iawn o weld bod safleoedd gwyrdd y Fro wedi cael eu cydnabod unwaith eto gyda chymaint o anrhydeddau.  Mae mannau gwyrdd yn hanfodol i'n lles meddyliol a chorfforol, yn ogystal â bod yn gyfle i'n cymunedau ddod at ei gilydd. 


"Mae hwn yn gyflawniad gwirioneddol ryfeddol ac yn dyst i'r gwaith caled a wnaed gan staff ein parciau a chan grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Mae'r safon sydd ei hangen i ennill statws y Faner Werdd yn uchel iawn ac mae llawer o ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod mannau awyr agored gwych ar gael i drigolion y Fro."

Rhaid i barciau wneud cais bob blwyddyn i gadw eu gwobr, a gall safleoedd buddugol chwifio Baner Werdd am 12 mis. 


Mae rhaglen Gwobr y Faner Werdd yn cael ei chyflwyno yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chymorth Llywodraeth Cymru.