Cost of Living Support Icon

 

Ysgol yn y Fro yn Dathlu 25 mlynedd o Addysg Gymraeg.

  • Dydd Gwener, 01 Mis Gorffenaf 2022

    Bro Morgannwg


 

 

GYN 1Mae ysgol Gymraeg ym Mro Morgannwg wedi dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed yn ddiweddar. 

Cydnabu Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant y garreg filltir bwysig drwy gynnal wythnos o ddathliadau, gan gynnwys Eisteddfod a thrip ysgol i Fferm Folly.

Cyn y dathliadau, cymerodd disgyblion o'r ysgol ran mewn taith gerdded wedi’i noddi gan godi £2,864.51 tuag at y trip.

Agorodd yr ysgol, a leolwyd yn wreiddiol ar safle Ysgol Sant Curig, ei drysau'n swyddogol ar ei safle presennol yn Gibbonsdown yn 2001 ac ers hynny mae'r ysgol wedi tyfu'n sylweddol o 26 i 250 o ddisgyblion. 

Mae dalgylch yr ysgol yn cynnwys Gibbonsdown, ond hefyd ardal lawer ehangach gan

GYN 2gynnwys Gwenfô, Pencoedtre, Palmerston, Colcot, a Thregatwg ac erbyn hyn mae’r ysgol wrth wraidd ei chymuned. 

Dywedodd Rhydian Lloyd, Pennaeth Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant: "Yn anffodus fe wnaeth cyfyngiadau COVID ein hatal rhag dathlu'r llynedd ond o'r diwedd rydym wedi cael wythnos wych o ddathliadau! 

"Mae’r plant wedi dysgu am hanes yr ysgol a sut rydym wedi tyfu dros y blynyddoedd. Mae'n bwysig i ni gydnabod gwaith caled y pennaeth cyntaf, Mrs Glenna Griffith, ynghyd â staff, Llywodraethwyr a rhieni a weithiodd yn ddiflino i sefydlu'r ysgol ac i sicrhau sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol.

"Rydym yn ysgol gyfeillgar iawn ac rwy'n hynod falch o fod yn rhan o dîm gweithgar iawn. Mae gennym ethos arbennig iawn yng Ngwaun y Nant, wedi'i adeiladu ar ein gwerthoedd a diwylliant yr ysgol.

"Yn ysgol Gymraeg, rydym yn amlwg yn dathlu popeth yn ymwneud â Chymru ac

GYN 3 yn mwynhau paratoi ein disgyblion ar gyfer dyfodol dwyieithog.


"Roeddem eisiau i'r dathliadau fod yn gofiadwy i'r plant, felly beth well na thrip! Diolch byth roedd y tywydd yn braf. Cafodd pawb ddiwrnod gwych, er roedd yn flinedig iawn!"

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, y Cynghorydd Rhiannon Birch: "Rwy'n falch iawn o longyfarch Ysgol Gwaun y Nant ar ei phen-blwydd yn 25 oed.

"Mae'r dathliad hwn o 25 mlynedd yn cynnig amser i fyfyrio ar gyflawniadau'r ysgol yn y gorffennol ac i edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous a llewyrchus addysg Gymraeg yng Nghymru.

"Bydd Ysgol Gwaun y Nant, ac ysgolion Cymraeg tebyg eraill yn chwarae rhan hanfodol yn y blynyddoedd i ddod wrth i Lywodraeth Cymru obeithio sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn Addysg Gymraeg ac os hoffech ymweld â'r ysgol, cysylltwch â'r Pennaeth, Rhydian Lloyd. 01446 421723.