Mae'r Cyngor yn parhau i gyflawni ymrwymiadau Prosiect Sero
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bwrw ymlaen â chynlluniau i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a lleihau allyriadau carbon y sefydliad i sero net erbyn 2030.
Roedd adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Craffu ar Berfformiad ac Adnoddau Corfforaethol yn ddiweddar yn manylu ar yr ystod eang o weithgarwch sy'n cael ei wneud gan y sefydliad.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Cyngor wedi dechrau gweithredu ffynonellau ynni adnewyddadwy ar gyfer ei adeiladau sy'n defnyddio ynni fwyaf, a Chanolfan Hamdden y Bont-faen yw'r cyntaf i osod paneli solar fel rhan o gynllun i adnewyddu'r to.
Agorodd y Cyngor hefyd' ysgol ddi-garbon gyntaf Cymru, Ysgol Gynradd Trwyn y De yn y Rhws. Wedi'i gyflwyno mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae gan yr ysgol gynllun ecogyfeillgar chwyldroadol.
Bu adolygiad parhaus o rwydweithiau llwybrau, gosod gorsafoedd trwsio beiciau a hyrwyddo teithio llesol, a fydd yn lleihau tagfeydd traffig ac allyriadau CO2.
Mae'r Cyngor wedi cyflwyno fflyd o gerbydau pwll trydan yn ddiweddar i gymryd lle rhan o'r fflyd bresennol sy'n cael ei bweru gan ddisel. Bydd hyn yn lleihau allyriadau gyda 26,304kg bob blwyddyn.
Mae meysydd eraill o gynnydd yn cynnwys datblygu Cynllun Seilwaith Gwyrdd newydd, Strategaeth Rheoli Gwastraff a'r adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy:
"Yn 2019, gwnaethom ymrwymiad ochr yn ochr ag awdurdodau lleol eraill i ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd a lleihau ein hallyriadau carbon. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni ymrwymiadau Prosiect Sero a mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac rydym eisoes wedi cymryd camau sylweddol tuag at gyflawni ein nod o sero net erbyn 2030.
"Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau â chynlluniau i wneud newidiadau i'n harferion, ysgolion, tai, rheoli tir ac asedau, teithio a thechnoleg gyda'r amcan cyson o leihau ein hallyriadau ac ystyried ein heffaith ar yr amgylchedd."
Mae adroddiad llawn y Diweddariad ar Brosiect Sero i'w weld ar wefan Cyngor Bro Morgannwg.