Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn agor Cronfa Grant Cymunedau Cryf

Mae Cyngor Bro Morgannwg bellach wedi agor ceisiadau ar gyfer y Gronfa Grant Cymunedau Cryf.

 

  • Dydd Iau, 21 Mis Gorffenaf 2022

    Bro Morgannwg



 

Mae'r gronfa yn cynnig grantiau i grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol a Chynghorau Tref a Chymuned tuag at gostau mentrau ym Mro Morgannwg sy’n helpu i ategu gweledigaeth y Cyngor o "Gymunedau Cryf gyda dyfodol disglair."  

Y nod yw gwella gwydnwch sefydliadau a grwpiau neu eu gweithgareddau drwy ariannu prosiectau sy’n rhoi gwerth ychwanegol i’w gwaith, sy’n eu gwneud yn fwy cynaliadwy yn yr hir dymor ac yn lleihau eu dibyniaeth ar arian grant yn y dyfodol.

Mae'r gronfa bellach yn derbyn ceisiadau tan 22 Medi 2022.

 

Os hoffech wneud cais am brosiect, cysylltwch â ni drwy e-bostio scgfapplications@valeofglamorgan.gov.uk.

Dylai ymgeiswyr gynnwys paragraff byr yn amlinellu eich syniadau, a bydd y Cyngor yn ymateb gyda chyngor ar gymhwysedd a sut i wneud cais.I gael rhagor o wybodaeth am y gronfa ac i lawrlwytho’r nodiadau canllaw, ewch i:  Cronfa Grant Cymunedau.