Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn Ennill Gwobr Aur Mewn Cynllun Cenedlaethol

 

  • Dydd Gwener, 29 Mis Gorffenaf 2022

    Bro Morgannwg


 

 

Gold Award

 

Gold award 2

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ennill y wobr aur yng 'Nghynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn' llywodraeth y DU.

 

Mae'r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn yn annog cyflogwyr i gefnogi'r lluoedd arfog ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.

 

Rhoddir gwobrau efydd, arian ac aur i gyflogwyr sy'n dangos cefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog ac sy'n cyd-fynd â'u gwerthoedd gyda Chyfamod y Lluoedd Arfog.

 

Er mwyn cyflawni'r wobr aur, rhaid i gyflogwyr fodloni rhestr helaeth o gyflawniadau megis llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, gan ddangos cymwysterau sy'n gyfeillgar i'r lluoedd yn rhagweithiol a helpu pobl sy'n gadael y lluoedd arfog i bontio i gyflogaeth.

 

Rhai o'r ffyrdd y mae'r Cyngor yn gwneud hyn yw drwy ddarparu absenoldeb cyflog ychwanegol i filwyr wrth gefn a chael polisïau Adnoddau Dynol cefnogol ar waith ar gyfer cyn-filwyr a gwirfoddolwyr.

 

Yn ogystal â hyn, mae'r Cyngor yn gweithio'n uniongyrchol gyda chyn-filwyr y lluoedd arfog a'u teuluoedd, gan ddarparu cyngor a chymorth am ddim ar amrywiaeth o faterion.

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Pencampwr Lluoedd Arfog Cyngor Bro Morgannwg: "Mae hyn yn dipyn o gamp i'r cyngor ac mae’n bennaf oherwydd gwaith anhygoel ein staff, sy'n rhoi cefnogaeth amhrisiadwy i gyn-filwyr a theuluoedd y lluoedd arfog.

 

"Rydym yn falch iawn o fod yn un o ddim ond 156 o sefydliadau ledled y DU gyfan i gael y wobr lefel uchaf."

 

"Rydym yn parhau â'n hymrwymiad i gefnogi cyn-bersonél y Lluoedd Arfog.  Rydym am sicrhau bod ein cymuned Lluoedd Arfog yn cael eu trin yn deg ac yn hynod o falch o gael teuluoedd gwasanaeth yn byw ac yn gweithio yn y Fro."

Ymhlith enillwyr eraill awdurdodau lleol y wobr aur eleni hefyd mae Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Wrecsam.