Cafodd yr ychwanegiad newydd i'r ganolfan ei agor ddydd Iau 21 Gorffennaf gyda'r ganolfan yn cynnal sesiwn flasu ar gylch-hyfforddi am ddim.
Mae'r Cyngor hefyd wedi llofnodi estyniad contract gyda Parkwood ac Legacy Leisure iddynt barhau â'u gwasanaethau ar y safle.
Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles, a aeth i’r diwrnod: "Dylai'r hyn sydd wedi cael ei greu wasanaethu cenedlaethau'r dyfodol a chynnig cyfleoedd newydd i drigolion y Fro.
"Mae'r pandemig wedi dangos i ni fod ein bod yn gallu gwrthsefyll unrhyw beth sy’n cael ei daflu atom orau pan fyddwn yn ffit ac yn iach.
"Mae'r ardal hon yn cynyddu'r cynnig ffitrwydd anhygoel sydd eisoes ar gael yng Nghanolfan Hamdden y Barri, ac yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous ar gyfer gwahanol fathau o ddosbarthiadau ffitrwydd."
Dywedodd Glenn Hall, Rheolwr Gyfarwyddwr Legacy Leisure: "Rydym yn llawn cyffro i agor y cyfleuster newydd gwych hwn ar gyfer y gymuned leol. Rwy'n gwybod bod pobl wedi bod yn gyrru heibio’r cyfleuster a bod pobl wir eisiau gwybod am yr hyn y byddwn yn ei gynnig.
"Mae bron i 10 mlynedd i'r diwrnod ers i ni ddechrau gweithredu'r cyfleusterau ar ran cyngor Bro Morgannwg ac mae'r bartneriaeth wedi bod yn wych.
"Rydym wedi cyflawni canlyniadau anhygoel dros y 10 mlynedd hynny, cynnydd o 20% yn nifer y bobl yn defnyddio’r ganolfan, 800,000 o ymweliadau. Buddsoddiadau gwych yn y cyfleuster. Ac mae hynny wedi arwain at estyn y bartneriaeth hyd at 2030.
"Rwy'n credu y bydd defnyddwyr y ganolfan a'r rheiny nad ydynt yn defnyddio’r ganolfan yn llawn cyffro am y buddsoddiad ychwanegol a fydd yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf ac yn dod i ben erbyn diwedd y flwyddyn, gan gynnig gwell cyfleusterau, gwell rhaglennu a gwell gwasanaeth. Mae'n gyfnod cyffrous iawn i gynnig gwell cyfleusterau hamdden."

Dywedodd Brian Davies, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: "Mae'r pandemig wedi ein dysgu fel sector pa mor bwysig yw hi i fod yn ffit ac i ddefnyddio'r awyr agored os gallwch. Mae hynny'n haws gyda chyfleusterau fel hyn, sy'n defnyddio lle nas defnyddiwyd ac sy'n annog pobl i fod yn actif yn yr awyr agored mewn amgylchedd diogel.
Mae'n fenter wych ac rydym yn falch iawn y gallai Chwaraeon Cymru ei chefnogi ynghyd â Chyngor Bro Morgannwg."