Y Cyngor yn Ariannu Teithio ar Feiciau ar gyfer ysgol yn y Fro
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gwario £10,000 yn prynu beiciau ac offer ar gyfer ysgol yn y Fro i helpu i annog teithio llesol.
Mae'r cyllid, sy'n dod o Grant Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, wedi cael ei ddefnyddio i brynu 15 beic, cloeon beiciau, helmedau a chynhwysydd storio ar gyfer Ysgol Uwchradd Whitmore.
Bydd y beiciau'n cael eu defnyddio ar gyfer teithio yn ôl ac ymlaen i ddigwyddiadau chwaraeon, gwersi, teithiau maes a hyfforddiant. Gall y beiciau hefyd gael eu benthyca a'u defnyddio gan athrawon a disgyblion i gyrraedd yr ysgol a theithio oddi yno.
Mae Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd y Cyngor wedi trefnu i hyfforddiant hyfedredd beicio gael ei gynnig i ddisgyblion Blwyddyn 7 ym mis Gorffennaf a bydd yn cael ei hyrwyddo'n arbennig ymhlith disgyblion sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim. Ar ôl llwyddo i basio eu profion Lefel un a dau, byddant yn cael cynnig defnyddio'r beiciau yn ystod gwyliau'r haf.
Yn gynharach eleni, gweithiodd Tîm Byw'n Iach y Cyngor gydag Ysgol Uwchradd Whitmore yn y Barri i lunio Cynllun Teithio Llesol i'r Ysgol a nododd nifer o ffyrdd o alluogi mwy o staff a disgyblion i feicio neu gerdded i'r ysgol.
Un o'r materion a godwyd yn y cynllun oedd y diffyg mynediad at feiciau gan rai disgyblion, gyda rhai heb ddysgu reidio beic yn ddiogel.
Mae hyn yn dilyn cyfres o fuddsoddiadau eraill mewn teithio llesol ledled y Fro gan gynnwys llwybrau beicio a gosodiadau diogelwch ar y ffyrdd a gwblhawyd yn ddiweddar mewn meysydd chwarae ysgolion, adeiladu llwybr cerdded, olwynion a beicio 1.1km yn Sain Tathan a chyflwyno gorsafoedd trwsio beiciau am ddim a stondinau parcio beiciau ledled y Fro.
Dywedodd Y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy: "Dyma enghraifft wych arall o'r ffyrdd arloesol y mae'r Cyngor yn gweithio gydag ysgolion lleol i helpu i hyrwyddo teithio llesol a newid ymddygiad teithio ledled y Fro.
"Y gobaith yw y bydd hyn nid yn unig yn cyfrannu at ein cynlluniau ar gyfer teithio llesol ond hefyd yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei ddal yn ôl, a helpu disgyblion i fagu hyder wrth feicio a theithio'n annibynnol.
"Mae pobl ifanc yn aml yn mynegi awydd i ddewis ffordd actif o deithio i'r ysgol ac i fod yn fwy annibynnol ac iach ac felly rydym yn gweithio gydag ysgolion i helpu i ddileu'r rhwystrau a allai eu hatal rhag gwneud hynny."
"Mae annog teithio llesol yn rhan allweddol o'n Strategaeth Prosiect Sero, sef ymrwymiad y Cyngor i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd."
I gael y newyddion diweddaraf am deithio llesol y Cyngor, ewch i wefan y Cyngor.