Cyngor yn Cytuno Estyniad Contract i Ganolfannau Hamdden Bro Morgannwg
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno yn ddiweddar ar estyniad contract i'w Ganolfannau Hamdden gyda'i bartner gweithredol presennol, sef Legacy Leisure.
Mae gwasanaethau yn y ganolfannau hamdden wedi bod yn cael eu darparu gan Legacy Leisure ers 10 mlynedd, a bydd nawr yn parhau tan 2030 gan roi sicrwydd o ran darpariaeth ar gyfer y dyfodol.
Ers 2012 gwnaed gwaith adnewyddu mawr ar y cyfleusterau, cyflwyno gweithgareddau newydd, estyniad helaeth o gynnyrch ffitrwydd a gwersi nofio, ac ymrwymiad i gadw prisiau'n fforddiadwy yn ogystal â gwelliannau eraill sydd wedi gweld ansawdd y gwasanaeth yn gwella'n barhaus.
Yn ystod 2018 fe ddenodd Canolfannau Bro Morgannwg 800,000 o ymweliadau, sy'n gynnydd o 20% ers 2012.
Mae'r Canolfannau yn gobeithio adfer i'r lefel hon o ddefnydd yn dilyn yr ymyrraeth i wasanaethau a achoswyd gan Covid 19.
Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles:
"Mae'r pandemig wedi dangos i ni fod ein bod yn gallu gwrthsefyll unrhyw beth sy’n cael ei daflu atom orau pan fyddwn yn ffit ac yn iach.
"Canolfannau Hamdden y Barri a Phenarth yw'r cyfleusterau dan do y mae'r cyngor yn ymweld â nhw fwyaf, ac rwy'n falch iawn o allu dathlu llofnodi'r estyniad contract ffurfiol gyda Legacy Leisure."
Dywedodd Glenn Hall, Rheolwr Gyfarwyddwr Legacy Leisure: "Mae bron i 10 mlynedd i'r diwrnod ers i ni ddechrau gweithredu'r cyfleusterau ar ran cyngor Bro Morgannwg ac mae'r bartneriaeth wedi bod yn wych.
"Rydym wedi sicrhau canlyniadau anhygoel dros y 10 mlynedd hynny ac wedi cael buddsoddiadau gwych i'r cyfleuster ac mae hynny wedi cyrraedd penllanw'n fawr yn ystod y dyddiau diwethaf gyda'r estyniad yn y bartneriaeth hyd at 2030."
"Rydyn ni'n teimlo'n gyffrous iawn. Rwy'n credu y bydd defnyddwyr y ganolfan a'r rheiny nad ydynt yn ddefnyddio’r ganolfan yn llawn cyffro am y buddsoddiad ychwanegol a fydd yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf ac yn dod i ben erbyn diwedd y flwyddyn, gan gynnig gwell cyfleusterau, gwell rhaglennu a gwell gwasanaeth.
"Mae'n gyfnod cyffrous iawn i arlwy gwell o gyfleusterau hamdden."