Cost of Living Support Icon

 

Swyddfeydd Dinesig i gynnal arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain

Bydd Swyddfeydd Dinesig Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal arddangosfa deithiol Brwydr Prydain ddiwedd y mis hwn.

 

  • Dydd Mercher, 20 Mis Gorffenaf 2022

    Bro Morgannwg



Crëwyd yr arddangosfa gan Gangen Hanes Awyr yr Awyrlu Brenhinol gyda'r Comodor yr Awyrlu Adrian Williams a'i dîm i ddathlu 80 mlynedd ers Brwydr Prydain.

 

Bydd yn cael ei harddangos yn y Swyddfeydd Dinesig yn y Barri rhwng 25 a 29 Gorffennaf. Mae ar agor bob dydd o 9am tan 4pm. Cynhelir digwyddiad agoriadol arbennig o 2pm ar 25 Gorffennaf.


Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog,

"Brwydr Prydain oedd y frwydr awyr fwyaf a gofnodwyd. Roedd yn un o'r adegau mwyaf allweddol ac eiconig yn hanes y wlad hon, gan nodi trobwynt yr Ail Ryfel Byd.


"Mae'r arddangosfa'n adrodd stori a fydd yn galluogi Cymry o bob oed i ddarganfod mwy am yr hyn a ddigwyddodd yn yr awyr ac ar lawr gwlad yn ystod y rhyfel. Mae'n adrodd hanesion criw awyr arwrol Cymru a fu’n ymladd ynddi. 


"Bydd ymwelwyr hefyd yn cael cyfle i dalu teyrnged i'r 'Cymry a Laddwyd', yn ogystal â dathlu'r gwahanol ffyrdd yr oedd y Cymry a'u cymunedau’n cyfrannu at ymdrech y Rhyfel yn ystod Brwydr Prydain.


"Mae'n anrhydedd i ni fod yn cynnal yr arddangosfa hon ac edrychwn ymlaen at groesawu'r cyhoedd."