Cost of Living Support Icon

 

Gwasanaeth troseddau ieuenctid yn helpu i glirio ardal o ordyfiant yn Sain Tathan

Mae pobl ifanc sy'n gweithio gyda Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Bro Morgannwg wedi clirio safle sydd wedi gordyfu yn Sain Tathan.

 

  • Dydd Iau, 27 Mis Ionawr 2022

    Bro Morgannwg



YOS St AthanYn cynnwys cynrychiolwyr o'r Heddlu, y Gwasanaeth Prawf, y Gwasanaethau Cymdeithasol, a gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, addysg, cyffuriau ac alcohol, amcanion y GTI yw gwella cyfleoedd i'r bobl ifanc y mae'n gweithio gyda nhw i hwyluso'r canlyniadau gorau.

 

Mae'r tîm yn gweithio gyda phlant rhwng wyth ac 17 oed o bob rhan o'r Fro sydd wedi troseddu neu sydd mewn perygl o droseddu i'w cefnogi i ymatal rhag troseddu neu ymddygiad negyddol arall yn y gymuned.

 

Mae'r gwasanaeth yn hyrwyddo gwerthoedd cymunedol ac yn annog pobl ifanc i roi yn ôl i'w cymuned leol mewn prosiectau gwneud iawn.

 

Mae'r cyfranogwyr yn cyflawni amrywiaeth o dasgau gwneud iawn yn y gymuned gan gynnwys glanhau graffiti, casglu sbwriel, glanhau traethau a chlirio llwybrau troed.


Yn ddiweddar, mae aelodau'r GTI wedi bod yn gweithio yn Sain Tathan. Gweithiodd y tîm i glirio ardal o ganol y pentref a oedd wedi tyfu'n wyllt ac a fu'n broblem ers sawl blwyddyn.


Gadawodd y tîm y safle yn edrych lawer taclusach a glanach nag y bu ac mae aelodau o'r gymuned wedi estyn allan i ddiolch iddynt am eu gwaith caled.


Ar ôl llwyddiant y prosiect, mae'r GTI eisoes mewn trafodaethau am wneud gwaith pellach yn ardal Sain Tathan ac ymwneud mwy â’r cyngor cymuned.

Dwedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Mae'r prosiect hwn yn dangos gwaith gwych y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid o ran cael pobl ifanc i roi yn ôl i'w cymunedau a deall effeithiau eu gweithredoedd. 


"Rwy'n edrych ymlaen at weld mwy o'r gwaith gwych a'r manteision cymunedol a ddaw yn sgil y GTI yn y dyfodol."