Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg wedi erlyn bridwyr cwn

Mae cwpl o Dresimwn oedd yn bridio cŵn mewn modd anghyfreithlon wedi cael gorchymyn i dalu mwy na £450,000 yn dilyn erlyniad llwyddiannus gan Gyngor Bro Morgannwg. 

  • Dydd Mercher, 12 Mis Ionawr 2022

    Bro Morgannwg



Ymddangosodd Karl a Victoria Shellard yn Llys Ynadon Caerdydd lle gwnaethant bledio'n euog i gyhuddiadau dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.


Cafodd y rhain eu cyflwyno gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) sy'n gwneud gwaith o'r fath i gynghorau'r Fro, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.


Cafwyd y cwpl yn euog o fridio cŵn bulldog heb drwydded ac o gyhuddiadau eraill yn ymwneud â nifer y torllwythi a gynhyrchwyd o fewn cyfnod byr. 

 

pup4

Ni roddwyd digon o amser i gŵn bridio wella, gan gael eu ffrwythloni'n artiffisial yn aml gan Mr Shellard yn fuan ar ôl genedigaeth y dorllwyth flaenorol.


Clywodd y Llys fod Mr a Mrs Shellard wedi cael gwybod ym mis Ionawr 2018 y byddai angen trwydded fridio arnynt pe bai ganddynt dorllwyth arall o gŵn a gallai methu â chael un arwain at erlyniad. 


Gwnaethant ddewis peidio â gwneud cais am un a daeth milfeddyg i'r casgliad na fyddai wedi bod yn llwyddiannus pe bai cais wedi'i gyflwyno.


Canfu gwarant a gafodd ei weithredu yng nghartref y cwpl yn Nhresimwn fis Rhagfyr 2019 fod 28 o gŵn mewn adeilad allanol a labordy gydag offer gan gynnwys peiriant allgyrchu amlbwrpas, microsgopau, offer ar gyfer storio a chasglu semen, ac ar gyfer cymryd gwaed. 

 

Mewn eiddo arall yn y pentref, darganfu swyddogion 24 o gŵn a chanfuwyd bod eiddo yng Ngogledd Corneli yn cynnwys chwe chi arall.

 

Datgelwyd bod y cwpl wedi bridio o leiaf 67 o dorllwythi rhwng 2014 a 2020, gyda gwybodaeth am grothdoriadau hysbys yn nodi bod 43 o dorllwythi wedi'u hesgor rhwng 2018 a 2019.

 

Roedd un ci o'r enw Coco wedi esgor chwe thorllwyth o fewn cyfnod o bedair blynedd tra gorfodwyd nifer o rai eraill i esgor dwy dorllwyth mewn llai na 12 mis.

 

Cofrestrwyd cŵn y teulu Shellards gyda phum practis milfeddygol a rhoddwyd gwahanol enwau a chyfeiriadau i dorllwythi i osgoi cael eu canfod gan yr Awdurdod Lleol a'r Kennel Club.

 

Wrth ddedfrydu, dywedodd Ei Anrhydedd y Barnwr Morgan fod Mr a Mr Shellard wedi dewis peidio â chael trwydded ac roedd y rhesymau a roddasant dros wneud hynny yn gwbl annigonol.

 

Pwysleisiodd fod eu harferion bridio yn groes i gyngor milfeddygol ac er bod yr amodau'n well na ffermydd cŵn eraill, dyna'n union oedd y gweithrediad yr oeddent yn ei gyflawni. 

 

Dywedwyd bod y dirwyon a roddwyd yn adlewyrchu eu modd i dalu, ac yn ystyried eu cymeriad da a'u pledion euog cynnar. 

 

Cafodd Mr a Mrs Shellard ddirwy o £19,000 yr un, gorchymyn i dalu costau erlyn o £43,775.50 a gordal dioddefwr o £175 yr un. 

 

Dywedwyd wrthynt hefyd i ad-dalu cyfanswm o £372,531.54 o fewn tri mis mewn Gwrandawiad Enillion Troseddau neu wynebu dedfryd o ddwy flynedd o garchar.

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoliadol a Chynllunio, Cyngor Bro Morgannwg: "Mae gwaith gofalus gan GRhR wedi arwain at y canlyniad hwn, gan ddod â phobl sy'n ymwneud ag arferion bridio anifeiliaid creulon a heb eu rheoleiddio i gyfiawnder.


"Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn cyfleu neges na fydd y Cyngor yn goddef ymddygiad o'r fath.  Byddwn yn dod ar ôl unrhyw un sy'n ymwneud â'r math hwn o weithgaredd ac yn eu herlyn i hyd eithaf y gyfraith."