Cost of Living Support Icon

 

Beiciau OVO yn dychwelyd i Fro Morgannwg 

MAE defnyddwyr yn cael cynnig credyd o £5 i ddathlu’r ffaith fod OVObikes yn dychwelyd i Fro Morgannwg. 

 

  • Dydd Llun, 17 Mis Ionawr 2022

    Bro Morgannwg



Gall cwsmeriaid neidio ar gefn eu beic unwaith eto yn dilyn egwyl o ddau fis.


I ddathlu eu dychweliad, mae'r gweithredwyr Nextbike wedi creu cod taleb gwerth £5, RELAUNCH22, y gall unrhyw un ei ddefnyddio. 


Cafodd y cynllun ei atal dros dro yng Nghaerdydd a'r Fro ym mis Tachwedd ar ôl i nifer fawr o achosion o fandaliaeth a dwyn yng Nghaerdydd adael y fflyd yn brin ac yn methu gweithredu’n effeithiol. 

 

Ovo1I ddechrau, bydd yn ail-lansio gyda 400 o feiciau o'r gorsafoedd defnydd uchaf, gyda mwy yn cael eu hychwanegu dros y misoedd nesaf. 

Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth:  "Rydw i wrth fy modd o weld OVObikes yn dychwelyd i Fro Morgannwg gan fod y cynllun yn hynod boblogaidd cyn iddo gael ei atal. 


"Yn ogystal â'r chwe gorsaf llogi beics trydan presennol yn y Fro, rwy'n falch o gyhoeddi y bydd pedair gorsaf beics trydan arall yn cael eu gosod erbyn diwedd mis Mawrth, ym Mhenarth, Sili a Dinas Powys.


"Yn unol â'r argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gennym yn 2019, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi dulliau trafnidiaeth actif a chynaliadwy. Mae'r beiciau'n syml i'w defnyddio ac mae eu tariffau fforddiadwy yn cymharu'n ffafriol â chost teithio mewn car, bws neu drên.


"Gallant wella iechyd a lles cymudwyr a thrigolion ac maent hefyd wedi bod yn boblogaidd gyda thwristiaid."

Lansiwyd fflyd o 50 o e-feiciau ym Mhenarth yn 2020, sydd wedi bod yn hynod boblogaidd gyda'r cyhoedd. 


Mae e-feic yn gyfuniad o feic confensiynol a modur sy'n golygu bod angen gwneud llai o ymdrech i bedlo.  Gyda chyflymder uchaf o 25km yr awr, gall yr e-feiciau deithio’n bellach yn gynt a gyda llai o ymdrech. 


Enwyd OVO Energy yn brif noddwr ym mis Awst, ac mae eu henw nhw ar gynllun Glasgow hefyd. 


Bydd rhentu e-feic yn costio £1 am 30 munud i gwsmeriaid sydd ag aelodaeth fisol neu flynyddol neu £2 am 30 munud ar sail talu wrth deithio.