Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 17 Mis Ionawr 2022
Bro Morgannwg
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymestyn y cyfnod ymgynghori ar gyfer cam cyntaf ei Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd.Rhaid adolygu'r CDLl yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddiweddaru.Mae'r Cyngor wrthi’n drafftio Adroddiad Adolygu newydd, yn edrych ar effeithiolrwydd y cynllun presennol ac yn cadarnhau'r camau adolygu nesaf. Mae Cytundeb Cyflawni hefyd yn cael ei ddrafftio sy’n cynnwys Cynllun Cynnwys Cymunedau ac amserlen ar gyfer paratoi a mabwysiadu'r CDLl newydd.Anogir trigolion i gymryd rhan drwy edrych ar ddogfennau’r camau cychwynnol hyn a rhoi sylwadau arnynt ar wefan y Cyngor.Y dyddiad cau i drigolion ddweud eu dweud ar gam cyntaf y broses yw 31 Ionawr 2022.Gallwch hefyd gofrestru eich diddordeb mewn cael gwybod am gynnydd y cynllun drwy gyflwyno ffurflen ar adran y Cynllun Datblygu Lleol Newydd ar wefan y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore:"Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn cynnig y fframwaith polisi ar gyfer Bro Morgannwg ac mae'n rhan allweddol o broses gynllunio Bro Morgannwg. “Mae’r cynllun yn nodi gweledigaeth, amcanion, strategaeth a pholisïau rheoli datblygiadau ym Mro Morgannwg, ac mae’n cynnwys nifer o bolisïau cynllunio, gan alluogi defnyddio tir at ddibenion tai, cyflogaeth, manwerthu, hamdden, trafnidiaeth a mwy."Mae'n bwysig ein bod yn adolygu ac yn adnewyddu'r cynllun i sicrhau bod yr holl elfennau'n gyfredol ac yn bodloni'r twf a ragwelir yn y Fro yn y blynyddoedd i ddod.""Rydym yn croesawu trigolion i edrych ar ddogfennau cam cyntaf y broses ac i gyflwyno unrhyw sylwadau sydd ganddynt."