Grŵp Galwad i Weithredu yn fuddugol mewn seremoni wobrwyo ranbarthol
Roedd tîm Galwad i Weithredu'r Cyngor ymhlith yr enillwyr yng Ngwobrau Cydnabod Diogelu Caerdydd a'r Fro.
Gan nodi diwedd yr Wythnos Diogelu Genedlaethol, nod y gwobrau yw dathlu grwpiau ac unigolion sydd wedi cael effaith fawr yn y maes.
Gwnaeth y tîm Galwad i Weithredu ennill yn y categori Ymrwymiad Eithriadol i Ddiogelu Oedolion mewn Perygl.
Fe'i ffurfiwyd ym mis Mehefin 2021 i ddarparu dull amlasiantaethol ac aml-broffesiynol o gefnogi pobl ar ôl i ddau gartref gofal preswyl gael eu cau.
Gwnaeth y ddau gartref gau’n gyflym un ar ôl y llall ac ar adeg gythryblus i'r sector, felly roedd logisteg lleoli'r preswylwyr yn gyflym yn heriol. Ffurfiwyd y grŵp Galwad i Weithredu i sicrhau, er gwaethaf hyn, mai anghenion y preswylwyr a roddwyd yn gyntaf bob amser.
Mae'r gwaith yn cynnwys dull strategol a gweithredol o roi gofal cartref.
Mae gwaith caled y tîm wedi bod yn allweddol wrth reoli'r broses o drosglwyddo preswylwyr o gartrefi gofal yn llwyddiannus ac, yn fwy diweddar, wrth reoli'r pwysau gofal domestig drwy gydol y pandemig.
Gwnaeth y tîm gydlynu ei ymdrechion i nodi lleoliadau amgen, gan drafod yr opsiynau gyda chleientiaid a'u teuluoedd.
Mae'r gydnabyddiaeth a gafodd y tîm yn tynnu sylw at ei ymrwymiad i gefnogi oedolion sy'n agored i niwed a'i ffocws ar ddiogelwch a lles.
Mae ei waith yn enghraifft wych o rannu cyfrifoldeb a gweithio tuag at nod cyffredin. Yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf heriol erioed i'r sector, llwyddodd yr aelodau o’r grŵp i flaenoriaethu anghenion preswylwyr dros y nifer fawr o alwadau gweithredol eraill oedd arnynt.
Dywedodd Janine White, Cydlynydd Cyllid Gofal Cymdeithasol ac aelod o’r grŵp Galw i Weithredu:
“Rwy’n teimlo’n hynod falch o weithio ochr yn ochr â thîm sy’n ymroi bob dydd i ddiogelu oedolion agored i niwed.
“Dyma’r tro cyntaf i’r tîm gael ei gydnabod am y gwaith caled maen nhw’n ei wneud ac mae’r wobr hon yn dangos cyflawniadau gwahanol dimau o fewn y gwasanaethau cymdeithasol sy’n cyd-dynnu o dan amgylchiadau anodd.
“Mae wedi bod yn ddwy flynedd anodd iawn o fewn y sector ac mae’r tîm yn ymfalchïo mewn rhoi dinasyddion y Fro ar flaen eu meddwl. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn gwbl haeddiannol gan bawb sydd wedi cymryd rhan.”
Dywedodd Beth Zehetmayr, cyn-reolwr Cartref Gofal Tower Hill:
"Mae'r staff wedi bod yn rhagorol drwy gydol y broses hon, gan sicrhau bod ansawdd y gofal yn parhau'n uchel drwyddi draw a bod y trosglwyddiadau'n cael eu gwneud yn ddiogel ac yn barchus.
"Gweithiodd y Cyngor, y tîm o weithwyr cymdeithasol ac Arolygiaeth Gofal Cymru gyda mi drwyddi draw i sicrhau bod y newid yn cael ei reoli yn y ffordd orau bosibl.
"Cymerwyd llawer iawn o ofal i baru unigolion i'r cartrefi cywir, hyd yn oed gan ystyried ffactorau fel eu grwpiau cyfeillgarwch."
Mae effaith gwaith y grŵp wedi bod mor gadarnhaol ac felly mae ei gylch gwaith wedi'i ymestyn, gan siapio arferion yn y Fro a thu hwnt yn y dyfodol.