Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 10 Mis Chwefror 2022
Bro Morgannwg
Cafodd y siarter,'Cefnogi Rhieni Mewn Gofal ac wrth ei Adael' ei llunio gan rieni â phrofiad o ofal gan weithio gyda gweithwyr proffesiynol o elusennau ac awdurdodau lleol. Mae'n addo safonau cymorth newydd i'r rhai sy'n dechrau teulu ac mae’n ymrwymo Bro Morgannwg i fynd i'r afael â gwahaniaethu a stigma. Un o'r ymrwymiadau mwyaf arwyddocaol yn y siarter yw cadarnhau na fydd unrhyw atgyfeiriadau awtomatig am asesiadau gofal cyn geni. Yn hytrach cymerir dull mwy cymesur sy'n seiliedig ar risg.
Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd a Chadeirydd ein Panel Rhianta Corfforaethol:"Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at lunio’r siarter hon – mae wedi dod â lleisiau rhieni sydd â phrofiad o ofal i'r amlwg. Mae eu cyfraniadau dewr a chraff yn creu achos cymhellol dros gefnogi hawliau rhieni â phrofiad o ofal a sicrhau lefelau priodol o gymorth". Meddai Crystal, ein Pencampwr dros Bobl sy’n Gadael Gofal:"Bydd y newid hwn yn helpu cymaint o bobl ifanc i feddwl am eu dyfodol a'r hyn maen nhw wir ei eisiau. Rwy'n gwybod bod llawer o bobl ifanc, gan gynnwys fi fy hun, yn poeni am ddechrau ein teuluoedd ein hunain, gan nad ydym am i'r un peth a ddigwyddodd i ni ddigwydd i'n plant. Mae cael cefnogaeth a gwybod bod pobl allan yna y gallwn siarad â nhw yn anhygoel."
Mae'r siarter eang hefyd yn ymrwymo Bro Morgannwg i helpu mamau beichiog a thadau sydd â phrofiad o ofal i ddatblygu sgiliau rhianta, cael cymorth ariannol, eiriolaeth a chymorth iechyd meddwl. Ariannwyd 'Cefnogi Rhieni Mewn Gofal ac Wrth ei Adael' gan Gyfrif Cyflymu Effaith Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Prifysgol Caerdydd a chafodd ei ddatblygu gan Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant mewn partneriaeth â VFCC, NYAS Cymru a TGP Cymru. Ariannwyd yr ymchwil sy'n sail i'r siarter gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.