Mae'r cyngor eisiau clywed eich barn ar ddod yn fro o gyfloedd i'r henoed
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal arolwg i ddarganfod sut y gall ddod yn Fro o gyfleoedd i’r Henoed.
Gan weithio gyda phartneriaid ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, y nod yw i'r Fro gael ei chydnabod fel lle o gyfleoedd i’r henoed, statws a ddyfernir gan Sefydliad Iechyd y Byd.
Diben yr ymgynghoriad yw sicrhau bod barn pobl hŷn yn cael ei chlywed. Bydd ceisio barn ar ystod eang o bynciau megis digwyddiadau a gweithgareddau, mannau awyr agored, trafnidiaeth a gofal cymdeithasol.
Mae hyn yn dilyn cyhoeddiadau diweddar gan y Cyngor ar gynllun peilot y Tocyn Aur a chynllun i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd cymdeithasol drwy weinyddu cyllid ar gyfer sefydliadau a grwpiau cymunedol yn y Fro.
Nod cynllun peilot y Tocyn Aur yw darparu cyfleoedd am weithgareddau corfforol a chwaraeon i drigolion y Barri sy'n 60 oed a hŷn.
Bydd yn darparu 400 o docynnau, gan roi mynediad i wyth sesiwn am ddim o weithgareddau sy’n amrywio o saethyddiaeth i ddosbarthiadau Zumba.
Cyhoeddodd y Cyngor hefyd yn ddiweddar ei fod yn ceisio sefydlu canolfan hygyrch yn Llanilltud Fawr ynghyd ag Age Connects a Gwasanaeth Gwirfoddoli Morgannwg.
Bydd yn cael ei defnyddio fel pwynt cyswllt ar gyfer pobl hŷn ynysig, gan eu cysylltu â'u cymuned, gwasanaethau cymorth a gweithgareddau cymdeithasol.
Dwedodd y Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Ers ei sefydlu, mae Fforwm Strategaeth 50+ y Fro wedi bod yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn y Fro yn cael eu clywed.
"Mae'n hanfodol bod sylwadau, barn a phryderon ein holl drigolion yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau pwysig.
"Rwy'n falch o'r gwaith a wnaed hyd yma tuag at gyrraedd ein nod o ennill Statws Bro o Gyfleoedd i’r Henoed. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod y Fro yn lle da i dyfu'n hŷn ynddo ac y gall pobl o bob oed fyw'n hapus ac yn iach.
"Bydd y cynllun hwn yn helpu i hyrwyddo polisïau sy'n mynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol ymhlith pobl hŷn, gan ddatblygu gwell gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol, iechyd a thai a chynnwys aelodau yn eu cymuned leol."
"Wrth i ni symud ymlaen a dechrau adfer o'r pandemig, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cynllunio fel bod pawb yn cael y cyfle i heneiddio'n dda, gydag ansawdd bywyd da ac yn gallu byw cyn hired ac mor annibynnol â phosibl."
I gwblhau’r arolwg, ewch i wefan Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg. Os nad ydych yn aelod o'r Fforwm ar hyn o bryd ond yr hoffech ymuno, cysylltwch â ni a gofynnwch am ffurflen aelodaeth drwy e-bostio OPF@bromorgannwg.gov.uk