Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn symud arwyddion hysbysebu anghyfreithlon

Cafodd dros 30 o fyrddau hysbysebu anghyfreithlon a 10 baner ganfas eu symud yn ddiweddar gan Gyngor Bro Morgannwg.

  • Dydd Iau, 24 Mis Chwefror 2022

    Bro Morgannwg



Signs

Yn dilyn newid polisi y llynedd, dim ond yn uniongyrchol y tu allan i'w busnes y gall busnesau osod byrddau hysbysebu neu arwyddion.  


Bydd unrhyw arwyddion a osodir gan fusnesau preifat mewn lleiniau glaswellt sy'n eiddo i'r Cyngor yn cael eu symud gan y Cyngor a gall y busnesau wynebu cosb o £100.


Rhoddwyd gwybod i berchnogion busnes cyn y polisi newydd, gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r broses newydd a chysylltwyd â phob un ohonynt i ofyn iddynt gael gwared ar yr arwyddion cyn iddynt gael eu symud.  


Yn rhan o’r broses ymgeisio mae Tîm Cynnal a Chadw Priffyrdd y Cyngor yn sicrhau bod y perchnogion busnes wedi'u hyswirio'n briodol.  


Cedwir unrhyw fyrddau a gaiff eu symud gan y Cyngor am 28 diwrnod i ganiatáu i'r perchnogion gysylltu a chasglu.

Dwedodd Peter King, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: 

 

"Mae'r Tîm Cynnal a Chadw Priffyrdd wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein ffyrdd a'n palmentydd yn ddiogel ac yn addas i bob defnyddiwr. 

 

"Mae'r newidiadau polisi wedi bod ar waith ers mis Gorffennaf 2021 ac fe'u cynlluniwyd i sicrhau bod yr holl hysbysebu allanol yn bodloni safonau diogelwch priodol ac yn cadw palmentydd yn glir o'r holl beryglon. 

 

"Gall rhwystrau ar balmentydd ei gwneud yn anodd i gerddwyr dall a rhannol ddall a gall fod yn anghyfleustra i eraill yn fwy cyffredinol."