Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor wedi cwblhau gwaith uwchraddio ar ardal chwarae yn y Barri

Mae ardal chwarae newydd a gwell yng Nghlos Peiriant yn y Barri wedi ailagor i'r cyhoedd ar ôl i Gyngor Bro Morgannwg gwblhau'r gwaith uwchraddio.

 

  • Dydd Mercher, 16 Mis Chwefror 2022

    Bro Morgannwg



Clos Peiriant Play Area Play Trail

Ers caffael y safle yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi buddsoddi £60,000 i adnewyddu'r ardal chwarae bresennol.


Roedd y safle preswyl, a adeiladwyd yn wreiddiol gan Persimmon Homes, wedi mynd rhwng y cŵn a’r brain am flynyddoedd lawer.


Ar ôl ymgynghori â phreswylwyr sy’n edrych dros y safle, mae'r Cyngor wedi trawsnewid yr ardal chwarae ddirywiedig yn ardal hwyliog, modern, a gynlluniwyd ar gyfer plant hyd at wyth oed.


Mae gan yr ardal chwarae newydd gyfarpar newydd, megis siglenni, paneli chwarae a llwybr chwarae, sydd i gyd yn cynnwys cymeriadau bywyd y môr a golwg tanddwr glas, yn unol â'r thema forwrol newydd. 


Mae'r ardal chwarae hefyd yn addas i blant ag anghenion ychwanegol, gyda nodweddion synhwyraidd megis siglen ar ffurf crud a phaneli synhwyraidd.

 

Dwedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Mae'n wych gweld yr ardal chwarae newydd a gwell ar agor i'w defnyddio eto mewn pryd ar gyfer y Gwanwyn a gwell tywydd gobeithio.


"Rwy'n siŵr y bydd y gymuned leol yn croesawu'r golwg fodern newydd.


“Mae’r gwaith uwchraddio Clos Peiriant yn rhan o raglen eang i wella ardaloedd chwarae ledled y Fro.

  
"Rwy'n gobeithio y bydd teuluoedd lleol yn mwynhau'r cyfleuster newydd ac yn cynnig lle llawn hwyl i'w plant fwynhau chwarae yn yr awyr agored."