Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 17 Mis Chwefror 2022
Bro Morgannwg
Mae'r Cyngor yn gweithio i leihau'r risg o drosglwyddo ymhellach yn y Cnap a'n parciau a pharciau gwledig eraill. Mae ffliw adar yn ymledu o aderyn i aderyn drwy gyswllt uniongyrchol neu drwy hylifau ac ysgarthion y corff halogedig.
Gellir ei ledaenu hefyd gan borthiant a dŵr halogedig, neu gan gerbydau budr, dillad ac esgidiau.
Mae Ffliw Adar yn effeithio'n bennaf ar adar. Mae'n anghyffredin iawn i'r feirws gael ei drosglwyddo o adar i bobl, neu famaliaid eraill. Mae'r risg i iechyd y cyhoedd yn isel iawn. Fel mesur rhagofalus, mae'r Cyngor yn gofyn i bob aelod o'r cyhoedd beidio â bwydo’r adar â llaw yn unrhyw un o'n parciau neu barciau gwledig.
Os byddwch yn dod o hyd i adar y dŵr gwyllt marw (elyrch, gwyddau neu hwyaid) neu adar gwyllt marw eraill, fel gwylanod neu adar ysglyfaethus, dylech roi gwybod i APHA ar 03459 33 55 77.
Dylid hefyd roi gwybod am unrhyw adar sy'n amlwg yn sâl drwy'r rhif hwn ac ni ddylid cyffwrdd â nhw na'u trin.