Cost of Living Support Icon

 

Diwrnod Agored Ysgol Pen y Garth

Mae Ysgol Pen y Garth ar Redlands Road ym Mhenarth yn cynnal bore agored ddydd Iau 8 Rhagfyr rhwng 9.15am ac 11.30am ac yn gwahodd rhieni a gwarcheidwaid i ddod i gael golwg, siarad â rhieni rhai o’r disgyblion presennol, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw am addysg ddwyieithog.

 

  • Dydd Mawrth, 06 Mis Rhagfyr 2022

    Bro Morgannwg



Yn ystod y bore byddwch chi'n gallu gweld enghreifftiau o waith y disgyblion, clywed rhai o'r dosbarthiadau yn canu, a chlywed gan aelodau o'r cyngor ysgol.

 

Mae'r ysgol ar agor i bob dysgwr cynradd, beth bynnag fo'u hoedran neu lefel o Gymraeg. Daw 60 y cant o'i disgyblion presennol o gartrefi di-Gymraeg ac mae holl gyfathrebu gyda rhieni a gwarcheidwaid yn cael ei gynnal yn ddwyieithog gyda staff addysgu ar gael bob amser i helpu gydag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau.

Dywedodd mam i ddau o ddisgyblion yr ysgol, Clare Skivens: "Dydy fy ngŵr na fi ddim yn gallu siarad Cymraeg, ond mae ein meibion yn caru Ysgol Pen y Garth. Mae athrawon yn gwneud bywyd ysgol yn hwyl ac yn rhyngweithiol, ac mae’r ffordd y mae’r ddau ohonyn nhw’n sgwrsio yn y Gymraeg wedi gwneud argraff arnon ni. Rydyn ni wrth ein bodd yn clywed am yr ystod o waith maen nhw'n ei wneud ac yn ei fwynhau, o fathemateg ac ysgrifennu hyd at waith digidol."  

 

Dywedodd Mrs Cule, y Pennaeth Gweithredol: "Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i'r ysgol a dangos y pethau anhygoel i chi y mae ein disgyblion yn eu gwneud, o weithgareddau yn yr ystafell ddosbarth i gerddoriaeth, chwaraeon a hyd yn oed cymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd.

 

"Rydym yn gwerthfawrogi y gall addysg Gymraeg i’w plant fod yn deimlad anodd i rai rhieni ac mae’r pryderon rydym yn aml yn eu clywed yn ymwneud â methu helpu gyda gwaith cartref, neu ofn cael eu gadael ar ôl y rhai sy'n dod o gefndir Cymraeg.

 

"Gyda sicrwydd llwyr, gallaf gadarnhau mai dim ond elwa mae plant o gael addysg ddwyieithog, ac rwy'n fwy na pharod i sgwrsio gydag unrhyw un sydd â phryderon o'r fath yn ystod y diwrnod agored."

 

Mae'r diwrnod agored yn cael ei gynnal yn Ysgol Pen y Garth ddydd Iau 8 Rhagfyr 9.15am-11.30am. Mae croeso i chi alw heibio ar y diwrnod, ond os hoffech chi cadw eich lle, e-bostiwch ygpenygarth@valeofglamorgan.co.uk neu ffoniwch 02920 700 262.

 

Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.ysgolpenygarth.cymru/. Ysgol Pen y Garth, Redlands Road, Penarth, CF64 2QN.