Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn ennill Statws Arloesi Race Equality Matters

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn Statws Awdurdod Arloesi Efydd Race Equality Matters i gydnabod ei waith yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol o fewn y sefydliad

  • Dydd Mawrth, 13 Mis Rhagfyr 2022

    Bro Morgannwg



Wedi'i greu i gydnabod sefydliadau sy'n sbarduno newid ystyrlon yn y maes cydraddoldeb hiliol, mae statws Awdurdod Arloesi Efydd Race Equality Matters (REM) wedi cael ei bennu gan banel annibynnol o arbenigwyr. Oll â phrofiad byw o anghydraddoldeb hiliol yn y gweithle. 

 

Mae statws arloesi yn fwy na gwobr. Ei ddiben yw:

 

  1. Nodi'r hyn sy'n cael effaith ystyrlon
  2. Annog y rhai sy'n cael effaith i gadw'r momentwm i fynd
  3. Ysbrydoli eraill i wneud mwy 
  4. Tystiolaeth o ymrwymiad sefydliad i weithredu, nid dim ond siarad am fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol

Mae dod yn Awdurdod Arloesi’n golygu bod y gwaith y mae'r Cyngor wedi'i wneud wedi arwain at newid a chael effaith ar hyd a lled y sefydliad cyfan. Mae rhai enghreifftiau o’r camau a gymerwyd yn cynnwys:

 

  • Gweithio gyda'r Rhwydwaith Staff Amrywiol i hyrwyddo gweithle cynhwysol sy'n dathlu ei gymuned a'i weithlu amrywiol
  • Cyflwyno #fyenw yw – menter i bobl ddefnyddio sillafu ffonetig gyda'u llofnod fel bod pobl yn defnyddio eu henw iawn ac yn ei ynganu'n gywir
  • Cynnal cyfarfodydd Gofod Diogel i hwyluso deialog rhwng yr Uwch Dîm Arwain a chydweithwyr du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig
  • Ymrwymo i weithredu ar flaenoriaethau'r Rhwydwaith Staff Amrywiol i gynnal hyfforddiant ymwybyddiaeth hil a chodi proffil cydweithwyr du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig

Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, yr Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddio, "Rwy'n falch bod y Cyngor wedi cael ei gydnabod am y camau y mae'r sefydliad wedi'u cymryd hyd yma i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol. Mae yna waith i'w wneud o hyd, ond mae hwn yn ddechrau gwych ac yn gosod blociau adeiladu ar gyfer y dyfodol."