Y Cyngor yn ymateb i gyhoeddiad cyllideb Llywodraeth Cymru
Mae Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Lis Burnett, wedi ymateb i gyhoeddiad cyllideb Awdurdodau Lleol Llywodraeth Cymru
Datgelodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AoS, ddydd Mawrth y byddai Awdurdodau Lleol ledled Cymru yn cael £227 miliwn yn ychwanegol ar gyfer 2023/24.
Dwedodd y Cynghorydd Burnett: "Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad hwn, sy'n cydnabod y pwysau ariannol sylweddol y mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn eu hwynebu.
"Mae ffigyrau'r setliad yn uwch na'r disgwyl ac rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am wneud cyllid ychwanegol ar gael.
"Mae'r penderfyniad i flaenoriaethu cyllid ar gyfer Llywodraeth Leol yn dangos cydnabyddiaeth glir o'r rôl hanfodol y mae cynghorau yn ei chwarae wrth gefnogi cymunedau.
"Byddwn ni’n gweithio dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd er mwyn deall beth mae'r newyddion hyn yn ei olygu i'n cynllunio ariannol wrth i broses pennu cyllideb y Cyngor barhau.
"Gan gymeradwyo ei hymrwymiad i wasanaethau lleol, rwy'n cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru adnoddau cyfyngedig ar gael iddynt i fynd i'r afael â'r mater hwn, ac yn anffodus ni fydd hyn yn datrys y £38 miliwn o bwysau yn ein cyllideb."
Wedi'i llunio'n flynyddol, mae'r gyllideb yn pennu incwm a gwariant yr Awdurdod ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Pan fydd cynigion yn dod yn gliriach, bydd y Cyngor yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Ionawr a Chwefror cyn y bydd cynlluniau'n cael eu cwblhau ym mis Mawrth.
Mae amgylchedd economaidd anwadal sydd wedi gweld prisiau ynni'n saethu i fyny ochr yn ochr â chynnydd sylweddol mewn chwyddiant a chyfraddau llog wedi cael effaith fawr ar sefyllfa ariannol y Cyngor.
Mae’n gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r mater hwn, sef un sy'n wynebu Awdurdodau, busnesau ac unigolion ledled y Wlad.
"Rydym yn parhau mewn sefyllfa ariannol heriol iawn ac mae rhai penderfyniadau anodd o'n blaenau," ychwanegodd y Cynghorydd Burnett.
"Fodd bynnag, byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o oresgyn yr heriau hyn a bydd barn y gymuned yn chwarae rhan allweddol wrth benderfynu ar y ffordd ymlaen.
"O'r pwys mwyaf yw amddiffyn y gwasanaethau hanfodol y mae ein trigolion mwyaf agored i niwed yn dibynnu arnyn nhw.
"Mae'n bosib y bydd darparu gofal cymdeithasol a phrydau ysgol am ddim yn dod am bris, ond byddai cost cael gwared ar y gwasanaethau hyn yn drychinebus."