Cost of Living Support Icon

 

Achos Siôn Corn yn dod â llawenydd i deuluoedd ledled y Fro

 

Yn gynharach eleni, lansiwyd 'Achos Siôn Corn', ymgyrch rhoi anrhegion a chodi arian i roi anrheg i bob person ifanc yn y Fro a allai fel arall, golli allan ar anrheg y Nadolig hwn.

 

  • Dydd Mercher, 21 Mis Rhagfyr 2022

    Bro Morgannwg



Barry Football ClubTrwy gyfuniad o roddion staff, codi arian yn y gymuned, a nawdd gan fusnesau lleol bydd y Cyngor yn rhoi rhodd Nadolig Llawen i gannoedd o deuluoedd ar draws y Fro yn 2022. 


Diolch i haelioni staff a busnesau lleol, bydd dros 1,000 o anrhegion yn cael eu dosbarthu drwy dimau Gwasanaethau Cymdeithasol a Dechrau'n Deg y Cyngor i deuluoedd ar draws y Sir mewn pryd ar gyfer y Nadolig.   

 

The Works (Barry)Yn dilyn llwyddiant ysgubol yr ymgyrch, mae'r Cyngor yn diolch i'r busnesau hynny a gyfranodd a helpu i wneud iddo ddigwydd: Clwb Pêl-droed Barry Town United, The Entertainer - Caerdydd, Big Fresh, The Works – y Barri, Romaquip, Staff Yn Heddlu de Cymru, Watts Truck and Van Centre, Apollo Teaching, Hugh James Solicitors, Twenty4Seven Education, New Directions, CJ Contract Travel Services Ltd, Education Staffing Solutions Limited, LCB, Euro Commercials (South Wales) Limited, Fudge Learning, McCann and Partners, Equal Education Partners, Merricks Transport Ltd, Cymdeithas Tai Newydd, Creigau Travel, Gibson Specialist Technical Services Limited, Parent Pay, AECOM, HLM, Hydrock a The Urbanists.


LCB donationDwedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau:"Mae fy nghydweithwyr a minnau wedi cael fy llorio gan faint o gefnogaeth y mae Achos Siôn Corn wedi'i weld.


"Gall y Nadolig fod yn gyfnod o straen mawr, gorbryder, a thristwch i deuluoedd ac yn anffodus gyda chostau byw cynyddol, mae'r nifer uchaf erioed o deuluoedd angen ein cefnogaeth y gaeaf hwn.


"Mae'r cydweithio eang a'r haelioni enfawr sydd wedi mynd tuag at yr ymgyrch hon yn dweud cyfrolau am “ysbryd y Fro”'.


New Directions"Rwy'n hynod o falch ein bod wedi gallu cefnogi ein timau anhygoel yn y gwasanaethau cymdeithasol wrth ddod â gwên i wynebau nifer y Nadolig hwn. 


“P'un a wnaethoch rannu'r achos ar y cyfryngau cymdeithasol, rhoi anrheg, cyfrannu arian, cynnig eich gwasanaethau neu helpu i gydlynu'r ymgyrch, oddi wrthon ni a channoed do deuluoedd ar draws y Fro…


“Diolch yn fawr a Nadolig Llawen!” Diolch yn fawr a Nadolig Llawen!”