Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 16 Mis Awst 2022
Bro Morgannwg
Mae'r parc wedi'i drawsnewid yn ofod hwyl, modern gydag offer newydd wedi'i gynllunio ar gyfer ystod o oedrannau, o blant bach i blant 12 oed.
Mae chwyrligwgan newydd, siglenni amrywiol, cylched cydbwyso, si-so, ardal glaswellt a meinciau ac ardal aml-chwarae i gyd wedi’u gosod ar arwyneb lliwgar.ce.
Mae llawer o'r eitemau yn gynhwysol ac yn briodol ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol.
Mae ffrâm ddringo bresennol hefyd wedi'i gwella, tra bydd coed newydd yn cael eu plannu yn yr hydref.
Mae’r ailddatblygiad hwn yn rhan o raglen eang i wella ardaloedd chwarae ledled y Fro.
Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, Chwaraeon a Lles: "Mae'n wych gweld y trawsnewidiad sydd wedi digwydd yn ardal chwarae Windmill Lane. Bellach, mae gan blant lleol ofod modern i'w fwynhau. "Mae amrywiaeth o offer newydd a gwell yno, gyda gwaith tirlunio i ddigwydd yn y dyfodol agos. "Dyma'r ardal chwarae ddiweddaraf i gael ei gwella yn dilyn prosiectau tebyg a gwblhawyd mewn rhannau eraill o'r sir. "Y gobaith yw y gall y gwaith hwn helpu i hyrwyddo ffordd o fyw egnïol a'r holl fuddion iechyd a ddaw drwy hynny."
Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, Chwaraeon a Lles: "Mae'n wych gweld y trawsnewidiad sydd wedi digwydd yn ardal chwarae Windmill Lane. Bellach, mae gan blant lleol ofod modern i'w fwynhau.
"Mae amrywiaeth o offer newydd a gwell yno, gyda gwaith tirlunio i ddigwydd yn y dyfodol agos.
"Dyma'r ardal chwarae ddiweddaraf i gael ei gwella yn dilyn prosiectau tebyg a gwblhawyd mewn rhannau eraill o'r sir.
"Y gobaith yw y gall y gwaith hwn helpu i hyrwyddo ffordd o fyw egnïol a'r holl fuddion iechyd a ddaw drwy hynny."