Cost of Living Support Icon

 

Cannoedd yn dod i Ddiwrnod Hwyl i'r Teulu Dechrau'n Deg

Fe wnaeth tîm Dechrau'n Deg Cyngor Bro Morgannwg gynnal diwrnod llawn hwyl ym mharc Pencoedtre.

 

  • Dydd Mawrth, 23 Mis Awst 2022

    Bro Morgannwg



Flying start family fun dayGweithiodd Dechrau'n Deg mewn partneriaeth â dros 40 o wasanaethau a sefydliadau gan gynnwys Gwasanaeth Ieuenctid y Fro, Llyfrgelloedd y Fro, Pedal Power a Gwasanaeth Tân De Cymru i gynnig amrywiaeth o weithgareddau rhad ac am ddim i deuluoedd eu mwynhau.


Roedd y gweithgareddau'n cynnwys peintio graffiti, cestyll neidio, dewin, beicio a chelf a chrefft.

Dywedodd un teulu: "Mae'n braf iawn gweld teuluoedd yn dod at ei gilydd i fwynhau'r diwrnod.


"Rydw i yma gyda fy chwaer a'i phlant, ac mae ein merched yn gyffro i gyd am y wal ddringo.


"Mae gweithgareddau am ddim i deuluoedd yn bwysicach nag erioed gyda chostau byw cynyddol."

Flying Start - Grafitti PaintingRoedd y diwrnod hefyd yn gyfle i'r timau ymgysylltu â'r trigolion a chodi ymwybyddiaeth o'r llu o wasanaethau rhad ac am ddim sydd ar gael yn y Fro sy’n cefnogi teuluoedd.


Mae cynllun Dechrau'n Deg yn rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi teuluoedd a gwella datblygiad, iechyd a lles plant. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys pedwar hawl gan ddarparu gofal plant, gofal iechyd, rhaglenni rhianta a datblygiad iaith.

Dywedodd Kathryn Clarke, Rheolwr Dechrau'n Deg: "Roedd y digwyddiad heddiw'n gyfle i asiantaethau a'r gymuned ailgysylltu yn dilyn dwy flynedd heriol.  


"Fel arfer mae ein digwyddiadau yn cael eu cynnal yn flynyddol, ond oherwydd y pandemig, rydyn ni wedi gorfod gohirio rhai digwyddiadau. 


"Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o deuluoedd o bob rhan o'r Fro yn dod heddiw. 


"Diolch yn fawr iawn i dîm Dechrau'n Deg a'n hasiantaethau partner am wneud y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol."

Flying Start - Rock climbingMae rhagor o wybodaeth am wasanaethau a chymorth i deuluoedd ar wefan Cyngor Bro Morgannwg.


Mae'r diwrnod yn un o nifer o weithgareddau am ddim sydd ar gael i bobl ifanc yr haf hwn. Bydd Haf o Hwyl yn para tan 30 Medi ac mae'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau am ddim, sy'n addas i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed.


Gweld amserlen Haf o Hwyl ar wefan Bro Morgannwg.

 

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Roeddwn wrth fy modd yn gweld y nifer enfawr o ymwelwyr ym Mharc Pencoedtre ar gyfer Diwrnod Hwyl Teuluol Dechrau'n Deg.  


"Cydweithiodd llawer o wasanaethau a sefydliadau i wneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant, a welodd cannoedd o bobl ifanc yn mwynhau eu hunain ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog, i gyd am ddim.


"Yn dilyn yr heriau y mae teuluoedd wedi'u hwynebu yn ystod y cyfnod diweddar oherwydd pandemig Covid-19, mae'n bwysig bod ein gwasanaethau teulu unwaith eto yn ymgysylltu â thrigolion lleol i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt. 


"Da iawn i bawb wnaeth cymryd rhan!"