Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 16 Mis Awst 2022
Bro Morgannwg
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn siarad gyda thrigolion lleol, busnesau, a grwpiau cymunedol am sut i wella glan y môr Penarth a'r cyffiniau ymhellach.
Bydd rhaglen o ymgysylltu a thrafod yn dechrau'r wythnos hon gyda chyfres o arolygon barn ar-lein a chyfle i bobl rannu eu syniadau ar-lein a defnyddio bwrdd syniadau ym Mhafiliwn Pier Penarth.
Bydd y rhain yn llywio ymarfer arolygu mwy ffurfiol a chyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu wyneb-yn-wyneb ar ddechrau'r hydref.
Mae'r Cyngor yn gobeithio wedyn ymgynghori ar gynlluniau penodol a gafodd eu datblygu mewn ymateb i'r adborth mae'n ei dderbyn erbyn diwedd y flwyddyn.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae glan y môr Penarth wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf. Mae buddsoddiad yn y pier, ffyrdd, palmentydd a goleuadau stryd wedi gwella golwg y gyrchfan. Ar yr un pryd, mae cyfleoedd newydd i gaffis a bwytai fasnachu, ac mae ailagor y Pafiliwn a’r Cymin wedi newid y lle. “Rydym nawr am fynd ymhellach a pharhau i ddatblygu'r ardal glan môr yn gyrchfan sy'n ffynnu drwy gydol y flwyddyn gyda chynnig unigryw i ymwelwyr a thrigolion lleol. "Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cydweithio'n agos gyda Chyngor Tref Penarth ac mae eisiau clywed gan gynifer o bobl â phosib. "Yn fwriadol iawn, dydyn ni ddim yn cyflwyno unrhyw gynlluniau ar gyfer glan y môr yn y cyfnod cynnar yma. Dylai cam nesaf datblygiad Penarth gael ei arwain gan y rhai sydd wedi gwneud yr Esplanâd yn gymaint o lwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf. Dyna pam rydym yn dechrau sgwrs gyda thrigolion, grwpiau a busnesau lleol i helpu i lywio ein cynlluniau at y dyfodol. "Rydym heddiw wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at holl fusnesau a thrigolion glan y môr. Mae croeso i bob safbwynt ar y cam hwn a bydd y rhain yn cael eu casglu ar-lein yn ogystal ag wyneb-yn-wyneb. Wrth i'n rhaglen ymgysylltu fynd rhagddi, byddwn hefyd yn gofyn am farn masnachwyr a grwpiau cymunedol lleol eraill, yn ogystal â rhai trigolion Penarth. "Wrth i themâu ddod allan o'r sgyrsiau cychwynnol hyn, byddwn yn ceisio datblygu’r rhain i mewn i gynllun i gefnogi'r gwaith o ddatblygu glan y môr yn barhaus, a sicrhau ei bod yn ffynnu i bawb."
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi buddsoddi mwy na £500,000 ym Mhafiliwn Pier Penarth a'r Esplanâd yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Cytunwyd ar estyniad i’r trwyddedau masnachu awyr agored presennol ar gyfer busnesau glan y môr Penarth gan gabinet y Cyngor ym mis Mehefin 2022.