Partneriaid y cyngor gydag Academi Bel-droed Joe Ledley
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gweithio gydag Academi Bêl-droed Joe Ledley i gynnig sesiynau i blant sy'n mynychu sesiynau yn Ysgol Uwchradd Whitmore am ddim ac amryw o fanteision eraill.
Fel rhan o'i raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau addysgol o'r radd flaenaf, nid yn unig ar gyfer disgyblion ysgol ond hefyd y gymuned ehangach.
Gyda hyn mewn golwg, caniatawyd i academi Joe Ledley, a redodd yr olaf o'i sesiynau haf yr wythnos hon, ddefnyddio'r cae chwaraeon 4G yn rhad ac am ddim.
Yn gyfnewid am hyn, fe gynigion nhw'r rhai oedd yn cymryd rhan gyfradd ostyngol, tra bod rhai plant na fyddai efallai wedi gallu bod yn bresennol fel arall wedi eu noddi gan Big Fresh Catering Company y Cyngor.
Roedd Big Fresh hefyd yn darparu cinio a byrbrydau maethlon, tra bod hyfforddwyr pêl-droed yn rhoi sgyrsiau ar bwysigrwydd bwyta'n iach.
Dwedodd Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg – Y Cynghorydd Rhiannon Birch: "Wedi'i ddarparu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae ein rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu wedi helpu i drawsnewid ysgolion ledled y Fro yn amgylcheddau dysgu tra modern gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf.
"Yn ogystal â disgyblion ysgol, mae'r gwaith uwchraddio yma hefyd wedi'i gynllunio er budd y gymuned ehangach ac mae'r cytundeb gydag Academi Bêl-droed Joe Ledley yn enghraifft berffaith o'r nod yma'n cael ei roi ar waith.
"Yn anffodus, mae llawer o bobl eisoes yn profi tlodi bwyd a bydd y broblem hon ond yn dwysáu wrth i'r argyfwng costau byw barhau. Er mwyn osgoi unrhyw stigma, roedd cwmni arlwyo Big Fresh y Cyngor yn cynnig pawb a oedd yn mynychu'r sesiynau pêl-droed fwyd maethlon a byrbrydau am ddim beth bynnag eu hamgylchiadau personol.
"Dyma'r enghraifft ddiweddaraf o'r effaith gadarnhaol eang mae Big Fresh yn ei chael ers iddo gael ei sefydlu dair blynedd yn ôl."
Mae model busnes arloesol Big Fresh yn gweld ei fod yn gweithredu fel Cwmni Masnachu Awdurdodau Lleol, sy'n golygu ei fod yn endid masnachol.
Gan gyflenwi prydau iach i ysgolion sy'n bartneriaid, mae'r cwmni hefyd yn darparu gwasanaeth arlwyo allanol, yn gweithredu trelar bwyd stryd ac yn rhedeg y Big Fresh Café ar Bier Penarth.
Dychwelir yr holl elw i ysgolion ac nid y busnes ei hun gan nad oes yr un o'r cyfarwyddwyr yn derbyn cyflogau ac nid yw'r Cyngor, fel yr unig gyfranddaliwr, yn tynnu unrhyw arian gan y cwmni.
Defnyddiwyd arian i wella ansawdd ac amrywiaeth prydau ysgol, talu am gitiau pêl-droed a hefyd ariannu prosiectau eraill fel ardal fwyta al fresco yn Ysgol Gynradd Ynys y Barri.
Dywedodd Joe Ledley, Cadeirydd a Pherchennog Academi Bêl-droed Joe Ledley: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio mor effeithiol gyda'r Cyngor a dod â'r academi i'r Barri am bris gostyngol.
"Mynychwyd y tri o'n cyrsiau pedwar diwrnod yn dda iawn, gyda phlant yn dysgu am faeth yn ogystal â phêl-droed. Roedd sôn am ddeiet iach, bwydydd a diodydd i'w bwyta wrth chwarae chwaraeon a'r diet cywir i helpu gydag adferiad.
"Roedd Big Fresh Catering Company hefyd yn danfon cinio a byrbrydau i gadw pawb yn perfformio ar eu gorau."