Y Cyngor yn galw ar ymwelwyr i beidio a chynnau fflamau agored
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn annog ymwelwyr â’i mannau agored i beidio â chynnau unrhyw fflamau agored yn ystod y tywydd poeth presennol.
Rhagwelir tywydd hynod o boeth a sych am y dyddiau nesaf ac mae amodau o'r fath yn cynyddu'r risg o danau damweiniol yn fawr.
Yn ddiweddar bu'n rhaid i'r Gwasanaethau Brys fynd i ddigwyddiad yn Nhrwyn Friars lle cafodd ardal fawr o laswellt ei losgi yn dilyn tân aeth allan o reolaeth.

Mae goleuo barbeciw, pydew tân neu dân gwersyll yn ystod tywydd poeth yn beryglus dros ben a gall arwain at ganlyniadau difrifol.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, "Rydym am i drigolion ac ymwelwyr fwynhau'r tywydd eithriadol o gynnes hwn ac mae gan y Fro lawer o leoliadau sy'n berffaith at y diben hwnnw. Mae ein parciau gwledig, traethau ac arfordir treftadaeth yn llefydd gwych i fwynhau’r haul.
"Ond yn yr amodau poeth a sych yma, mae'r risg o ddechrau tân difrifol yn anfwriadol yn cynyddu'n fawr.
"Gall sefyllfa o'r fath gael effaith ddinistriol ar fywyd gwyllt, gosod galwadau sylweddol ar staff y Cyngor a'r Gwasanaethau Brys a hyd yn oed fygwth bywydau pobl.
"Mae cynnau barbeciws, pydewau tân a thanau gwersylla yn anghyfrifol ac yn gwbl amhriodol tra bo’r tywydd poeth hwn yn parhau.
"Byddwn yn annog pobl yn y termau cryfaf posib i weithredu mewn modd cyfrifol ac i beidio â chynnau unrhyw fflamau agored pan yn ymweld â mannau agored, am y tro o leiaf."