Cost of Living Support Icon

 

Llwybrau'r Fro - Gŵyl Gerdded #10DiwrnodYmMisMai

Bob penwythnos yn ystod mis Mai rydym yn gwahodd ymwelwyr i ymuno â chyfres o deithiau tywys yn darganfod y Fro, dan arweiniad y Cyflwynydd Teledu Chris Jones ac a drefnir gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Mercher, 06 Mis Ebrill 2022

    Bro Morgannwg

 

 

 

chrisjones





Wrth grwydro ar hyd pob un o 10 Llwybr y Fro, bydd ymwelwyr yn clywed straeon a llên gwerin lleol a ddaw'n fyw drwy gymeriadau a fydd yn ymddangos ar hyd pob un o'r teithiau cerdded. 

Mae 10 Llwybr y Fro yn cynnwys pum taith gerdded arfordirol sy'n mynd ar hyd glannau gogoneddus Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn y gorllewin hyd at Benarth a'i Phier mawreddog i'r dwyrain. Mae'r pum taith gerdded mewndirol yn archwilio cefn gwlad cyfoethog y Fro ac yn cynnwys llawer o'n mannau gwych ni i ymweld â nhw.

Ar hyd y llwybr, gall ymwelwyr ddod ar draws Pendefig Rhufeinig, Mynach Benedictaidd, cael eu cyfarch gan Smyglwyr a Môr-ladron a hyd yn oed cael cip ar Arglwyddes Wen Dwnrhefn wrth iddynt gerdded drwy'r gerddi.

Bydd Côr Meibion y Barri yn ymddangos i gynnig adloniant cerddorol y bydd croeso mawr iddo ar un o'r teithiau cerdded, tra bydd ffigurau hanesyddol o orffennol y Fro yn dod â straeon yn fyw, gan gynnwys Iolo Morgannwg, Sant Cadog a hyd yn oed ddyfeisiwr darlledu Radio, Marconi.

Bydd y cyflwynydd teledu Plant, Heini, hefyd yn ymuno ag un daith gerdded i gynhesu’r cerddwyr cyn iddynt ddechrau ar eu taith. 

Mae Chris Jones, sy'n gyflwynydd rheolaidd ar S4C, yn falch iawn o arwain pob un o'r teithiau cerdded wrth iddo rannu ei angerdd dros Gerdded yn y Fro gydag ymwelwyr. Yn gweithio gyda thîm Twristiaeth a Digwyddiadau Bro Morgannwg, dyma'r diweddaraf mewn calendr o ddigwyddiadau gan Gyngor Bro Morgannwg.

Dywedodd Nia Hollins, Prif Swyddog Twristiaeth a Marchnata: "Mae eleni'n nodi degfed pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru, a nod digwyddiad Llwybrau'r Fro #10DiwrnodYmMisMai yw amlygu y rhan o Lwybr Arfordir Cymru sy'n ffurfio ffin ddeheuol ein Sir brydferth. 

"Bydd y calendr o deithiau cerdded a baratowyd i'n hymwelwyr eu mwynhau yn dod â'r straeon niferus o fyd hanes yn fyw ac yn arddangos y Fro fel cyrchfan gerdded hardd sydd lawn cystal â rhai o lwybrau prysurach cyrchfannau poblogaidd eraill yng Nghymru."  

 

Yn ogystal â'r calendr teithiau cerdded, mae cyfres o 10 fideo Llwybrau’r Fro hefyd yn cael eu cynhyrchu i ysbrydoli ymwelwyr i ddewis y Fro yn gyrchfan gerdded iddynt. Caiff y rhain eu rhannu drwy wefan www.visitthevale.com a thrwy sianeli cyfryngau cymdeithasol yn fuan. 

Mae manylion llawn am ddigwyddiad cerdded Llwybrau'r Fro #10DiwrnodYmMisMai #AmDroYnYFro, gan gynnwys sut i gadw lle, i'w gweld yn www.visitthevale.com/events 

Mae’r teithiau cerdded yn gyfyngedig o ran niferoedd a bydd y rhai sy'n cofrestru i fynychu yn cael man cyfarfod ar gyfer pob taith gerdded.