Traeth Llanilltud Fawr yn dod yn lleoliad ymdrochi dynodedig
Mae'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRHR) sy'n gweithredu ar ran Cyngor Bro Morgannwg wedi gwneud cais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru i ddynodi Traeth Cwm Col-Huw yn Llanilltud Fawr yn lleoliad dŵr ymdrochi.
Mae’r GRhR yn gwneud gwaith mewn perthynas ag ansawdd dŵr, aer a thir ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a'r Fro, ac mae'n gyfrifol am iechyd yr amgylchedd, safonau masnach a swyddogaethau trwyddedu.
Nododd swyddogion o’r GRhR a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod Traeth Col-Huw yn gyrchfan boblogaidd i ddefnyddwyr y traeth, gan gynnwys syrffwyr a theuluoedd.
Rhwng mis Mai a mis Medi 2021, cydweithiodd Swyddogion GRhR â Chlwb Achub Bywyd Syrffio Traeth Llanilltud, Clwb Nofio Blue Bobbies, Cyngor Tref Llanilltud Fawr a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) i gynnal arolygon o ddefnyddwyr y traeth i ddangos poblogrwydd y traeth i Lywodraeth Cymru.
Bydd y traeth nawr yn cael ei gynnwys yn rhaglen monitro dŵr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a bydd y dŵr yn cael ei samplu a'i brofi fel mater o drefn drwy gydol y tymor dŵr ymdrochi sy'n rhedeg o 15 Mai i Fedi 30 bob blwyddyn. Bydd canlyniadau'r samplau hyn yn cael eu rhoi ar eu gwefan.
O ganlyniad i'r cais llwyddiannus, bydd Cwm-Col-Huw bellach yn cael ei ychwanegu at ddyfroedd ymdrochi dynodedig y Fro ochr yn ochr â'r Cold Knap, Bae Jackson, Bae Whitmore a Southerndown, y mae CNC yn eu monitro fel mater o drefn.
Dywedodd Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai: "Mae'n wych gweld traeth Cwm Col-Huw yn cael ei gydnabod fel cyrchfan ymdrochi boblogaidd yn y Fro.
"Rwy'n gobeithio y bydd y dŵr ymdrochi sydd newydd ei ddynodi yn denu llawer mwy o ymwelwyr i fwynhau tirwedd a bywyd gwyllt syfrdanol y traeth wrth i ni agosáu at yr haf, a fydd yn ei dro o fudd i'r gymuned a llawer o fusnesau lleol yn Llanilltud Fawr."
Yn ogystal â dynodi Traeth Col-Huw, gwnaed cais llwyddiannus gan aelod o'r cyhoedd i ddynodi Traeth Penarth a fydd, ynghyd â Col-Huw, yn rhan o raglen monitro dŵr CNC.
Mae'r Cyngor bob amser yn edrych ar gyfleoedd i sefydlu mwy o ddyfroedd ymdrochi lle bo hynny'n briodol ac rydym yn croesawu mewnbwn gan ein trigolion i adnabod traethau o'r fath.
Gellir gwneud hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn.
Mae croeso hefyd i aelodau'r cyhoedd gyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cymru ynghylch dynodiadau dŵr ymdrochi.