Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor ac ysgolion yn codi arian ar gyfer yr Wcráin

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymuno ag ysgolion yn y Sir i godi arian ar gyfer Wcráin

 

  • Dydd Iau, 14 Mis Ebrill 2022

    Bro Morgannwg



Miles for Ukraine PPE TeamMae'r golygfeydd gofidus sy'n dod o Wcráin wedi sbarduno cynnydd mewn ymdrechion codi arian a chasgliadau yn y Fro.

 

Mae angen arian i gefnogi'r miliynau o bobl sydd wedi ffoi o'u cartrefi i ddianc rhag y rhyfel ac i gynorthwyo'r rhai a adawyd ar ôl.


Ers i'r rhyfel ddechrau, mae ysgolion o bob rhan o'r Fro wedi trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian, gan gynnwys gwerthu cacennau, teithiau beic noddedig, casglu rhoddion, gwerthu bandiau  arddwrn, tawelwch noddedig, a diwrnodau gwisgo dillad glas a melyn.


Hyd yn hyn, mae cyfanswm o 14 o ysgolion wedi codi'r swm anhygoel o £10,357 at yr achos.


Yr ysgolion sy’n cymryd rhan yw:


Ysgol Gynradd yr Holl Saint, Y Barri


Ysgol Uwchradd Whitmore, Y Barri 


Ysgol Gynradd Holltwn, Y Barri  


Ysgol Gynradd Palmerston, Y Barri


Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn, Y Barri


Ysgol Gynradd Llanbedr-y-fro, Caerdydd


Ysgol Gynradd Cogan, Cogan


Meithrinfa Cogan, Cogan


Ysgol Gyfun y Bont-faen, Y Bont-faen


Ysgol Iolo Morganwg, Y Bont-faen


Ysgol Gynradd Llangan, Y Bont-faen


Ysgol Gynradd St Illtyd, Llanilltud Fawr


Ysgol Gynradd Victoria, Penarth 


Ysgol Stanwell, Penarth


Ochr yn ochr ag ymdrechion ysgolion i godi arian, mae staff o Gyngor Bro Morgannwg wedi bod yn brysur yn cwblhau Milltiroedd ar gyfer Wcráin, taith rithwir 1,775 milltir o'r swyddfeydd Dinesig yn y Barri i Wcráin.


Ers 16 Mawrth, mae timau a staff wedi bod yn brysur yn cerdded, rhedeg, beicio a hyd yn oed gwau eu ffordd i Wcráin mewn ymdrech i godi arian drwy dudalen Just Giving a sefydlwyd ar gyfer yr ymgyrch. Hyd yn hyn, mae £1,584 wedi'i godi.


Ar 5 Ebrill, cyflawnwyd y targed o 1,775 milltir, a daeth y daith yn ôl i’r Barri yn her newydd.  


Fel y mae heddiw, mae'r Cyngor wedi teithio cyfanswm o 2,337.34 milltiroedd, gyda dim ond 1,212 ar ôl!


Bydd yr arian y mae'r Ysgolion a'r Cyngor wedi'i godi yn cael ei roi i Bwyllgor Argyfwng Trychinebau Apêl Dyngarol Wcráin i helpu i ddarparu noddfa, bwyd, dŵr a hanfodion eraill i'r rhai sy'n dianc rhag y rhyfel.


Gellir gwneud rhoddion i Bwyllgor Argyfwng Trychinebau Apêl Dyngarol Wcráin ar eu gwefan.

 

Dywedodd Rob Thomas, Prif Weithredwr Cyngor Bro Morgannwg: "Mae'r digwyddiadau erchyll yn Wcráin wedi uno cymaint yn y Fro mewn awydd i helpu'r argyfwng dyngarol.


"Mae ymdrech enfawr ysgolion a gweithwyr y Cyngor i gydlynu ymdrechion codi arian a chasgliadau mewn cyfnod mor fyr yn syfrdanol, heb sôn am haelioni'r nifer fawr o drigolion sydd wedi cyfrannu arian at yr achos.


"Rwy'n gobeithio y gallwn barhau â'r momentwm gwych hwn dros yr wythnosau nesaf!"