Y Cyngor yn bwriadu gwahardd digwyddiadau ar dir sy’n eiddo iddo sy'n cynnig anifeiliaid anwes yn wobrau
MAE Cyngor Bro Morgannwg yn rhoi camau ar waith i roi'r gorau i'r arfer o roi anifeiliaid anwes fel gwobrau.
Bydd adroddiad a gyflwynir i Gabinet y sefydliad y mis nesaf yn awgrymu gwahardd yr arferiad ym mhob digwyddiad a gynhelir ar dir y Cyngor.
Mae hefyd yn cynnig rhoi diwedd ar yr arfer o ryddhau balwnau heliwm ac mae'n dilyn gwaharddiad tebyg mewn perthynas â llusernau papur.
Daw hyn ar ôl i'r RSPCA gyhoeddi gwybodaeth sy'n dangos mor ddifrifol ac eang mae'r broblem o roi anifeiliaid anwes fel gwobrau.

Yn aml, nid yw anghenion lles yn cael eu diogelu cyn, yn ystod nac ar ôl yr arfer hwn, a’r rhai sy'n derbyn anifeiliaid anwes yn aml yn amharod i ofalu amdanynt.
Rhwng 2014 a 2020, rhoddwyd gwybod i’r RSPCA yng Nghymru am 48 achos o anifeiliaid byw yn cael eu rhoi’n wobrau.
Pysgod aur oedd nifer fawr o'r rhain, ond mae enghreifftiau eraill yn cynnwys cŵn, hwyaid a cheffylau.
Hoffai'r RSPCA ei gwneud yn drosedd rhoi anifail fel gwobr i unrhyw un, ac eithrio yng nghyd-destun teuluoedd, ac ar hyn o bryd dim ond pan roddir y wobr i blant dan 16 oed y mae’n drosedd.
Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoliadol a Chynllunio, Cyngor Bro Morgannwg: "Mae rhoi anifeiliaid yn wobrau yn gwbl amhriodol ac, fel Cyngor, rydym yn cefnogi safbwynt yr RSPCA y dylid atal yr arfer hwn.
"I'r perwyl hwnnw, ni fyddwn yn caniatáu unrhyw ddigwyddiad sy'n cynnig anifeiliaid yn wobrau ar dir y Cyngor.
"Ar ôl gwahardd rhyddhau llusernau papur mewn lleoliadau o'r fath eisoes, byddwn hefyd yn mabwysiadu'r un dull o ymdrin â balwnau.
"Byddwn hefyd yn annog unrhyw un a allai fynychu digwyddiad lle mae anifeiliaid anwes yn cael eu rhoi’n wobrau i ystyried lles yr anifeiliaid dan sylw yn ofalus ac a yw'n rhywbeth y maent am fod yn rhan ohono."