Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 23 Mis Medi 2021
Bro Morgannwg
Daeth aelodau o'r gymuned, hen a newydd, ynghyd, â'r nod cychwynnol o dacluso'r fynedfa i'r ystâd. Cliriwyd gwerth dros 20 mlynedd o wair pampas a bambŵ, gan ddatgelu'r llechi a oedd wedi'u cuddio gynt.
Yn dilyn hyn, sefydlwyd grŵp WhatsApp lle gellir rhannu syniadau i wella a chynnal a chadw'r ystâd.Ers hynny mae sbwriel wedi’i gasglu, ac mae grisiau a llwybrau wedi'u clirio, gyda’r ymdrechion yn cyrraedd penllanw dros wyliau'r haf pan gafodd parc plant Heol Gwendoline ei ailwampio.
Gweithiodd Adam Sargent a Wyndham Hughes, ill dau o dîm Gwasanaethau Cymdogaeth y Cyngor yn agos â'r grŵp, ynghyd â'r Cynghorydd lleol Ian Johnson a'r Swyddogion Cymorth Cymunedol Sarah Johnson a Leanne Davies.
Mae trigolion wedi mynegi eu diolch i Adam a Wyndham am ddarparu meinciau a biniau newydd a phaent ar gyfer adnewyddu'r parc.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Peter King: "Rydym yn ffodus o gael ymdeimlad mor gryf o le a chymuned ym Mro Morgannwg. Mae'r prosiect hwn yn dangos cymaint mae ein preswylwyr yn ei wneud i gynnal y mannau sy'n arbennig iddynt. "Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o'r hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd, ac roeddwn yn falch o weld cynifer o aelodau o'r gymuned hon, yr hen a'r ifanc, yn y digwyddiad agoriadol."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Peter King:
"Rydym yn ffodus o gael ymdeimlad mor gryf o le a chymuned ym Mro Morgannwg. Mae'r prosiect hwn yn dangos cymaint mae ein preswylwyr yn ei wneud i gynnal y mannau sy'n arbennig iddynt.
"Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o'r hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd, ac roeddwn yn falch o weld cynifer o aelodau o'r gymuned hon, yr hen a'r ifanc, yn y digwyddiad agoriadol."