Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 17 Mis Medi 2021
Bro Morgannwg
Cyflwynwyd y cynllun gan bartneriaid mewnol ac allanol, gan gynnwys y Tîm Chwaraeon a Chwarae, Digwyddiadau, Llyfrgelloedd a Pharciau Gwledig. Roedd sefydliadau fel Menter Bro Morgannwg, yr URDD, Legacy Leisure ac YMCA Caerdydd hefyd yn cynnal rhaglen o weithgareddau. Roedd y rhaglen yn rhan o fenter gan Lywodraeth Cymru. Ei nod oedd ennyn diddordeb plant a phobl ifanc a chefnogi gwelliannau mewn lles cymdeithasol, emosiynol, corfforol a meddyliol, yn ogystal â'r adferiad o effaith cyfyngiadau Covid. Manteisiodd plant a phobl ifanc ar amrywiaeth eang o weithgareddau, gan gynnwys dosbarthiadau Gwylltgrefft, astudio pyllau glan môr, gweithdai graffiti a murlun, pilates ac ymwybyddiaeth ofalgar.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant a Hyrwyddwr Pobl Ifanc, y Cynghorydd Kathryn McCaffer: "Hoffwn ddiolch i'r holl dîm a sefydliadau a helpodd i wneud y cynllun hwn yn gymaint o lwyddiant. Mae effeithiau hyn y llynedd a'r cyfnodau cloi yn dal i gael eu teimlo, yn enwedig gan ein plant a'n pobl ifanc. "Bydd llawer wedi mynd wythnosau heb weld ffrindiau na chymryd rhan yn eu gweithgareddau arferol, sydd mor bwysig ar gyfer eu lles emosiynol a meddyliol. "Roedd maint ac ystod y gweithgareddau oedd ar gael yn aruthrol, a'u bod i gyd am ddim yn golygu y gallai pawb gymryd rhan. Rwyf wedi derbyn llawer o adborth gan rieni a gofalwyr, gan ganmol y gweithgareddau a oedd ar gael. Rydym yn hynod ddiolchgar am y gwaith a aeth i redeg y rhaglen hon a'r gefnogaeth a ddarparodd i deuluoedd ledled y sir."